Wrth i’r bloc agoriadol o gemau ddod i ben yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, does fawr o ddim wedi bod i’w ddathlu o ran canlyniadau cynnar y timoedd Cymreig. Yr un hen stori yw hi wrth i ni gyrraedd rowndiau agoriadol Ewrop; ambell i ganlyniad parchus, ond ar y cyfan, y rhanbarthau yn suddo i hanner isa’r tabl, gydag ambell i goten gas ar hyd y ffordd.

Dyna oedd i’w ddisgwyl, wrth gwrs; roedd toriadau cyllidebol Undeb Rygbi Cymru bob amser yn mynd i orfodi penderfyniadau anodd i’r timoedd ac i’r chwaraewyr. A’r canlyniad? Rhagor o fawrion tîm Cymru yn symud i gynghreiriau cyfoethocach, gan adael ieuectid dibrofiad i lewni’r bylchau.

Ychwanegwch ddiffyg buddsoddiad a gweledigaeth hir dymor yr Undeb dros y ddau ddegawd diwetha, a roedd y sefyllfa sydd ohoni yn anochel. Ond wrth i’r gamp lusgo ar hyd gwaelodion y gasgen, y mae’n gyfle gwych i ddechrau adeiladu seiliau sicrach i’r dyfodol.

Gyda’r newidiadau hir-ddisgwyliedig ar frig yr Undeb, mae arweinwyr y gamp yng Nghymru bellach yn drawsdoriad cyffrous o ddeallusrwydd rygbi ac arbenigedd busnes, sy’n gwybod sut i reoli sefydliadau mawr fel URC. Gwynt teg i’r clwb “hen fois” sy’ ‘di bod yn tagu’r gêm ers iddi droi’n broffesiynol. Mae’n bryd i ni edrych i’r dyfodol!

Mi fydd hi’n dasg a hanner i gymryd llywyddiaeth dros long sy’n prysur suddo, cofiwch. Yr her i’r Cadeirydd newydd,  Richard Collier-Keywood a’i fwrdd yw i arwain y gamp drwy’r tirwedd ariannol presennol ac i ffwrdd o’r sgandalau diwylliannol diweddar, at ddyfroedd tawelach.

Y gêm broffesiynol sydd wrth gwrs yn hawlio’r penawdau i gyd pan mae’n dod i’r toriadau cyllidebol, ond does dim dwywaith bod yr esgid yn gwasgu ar lawr gwlad hefyd. Mae’r diffyg buddsoddiad i’w deimlo mewn clybiau ar hyd a lled y wlad; yr union glybiau sy’n cyflwyno’r gamp i’n hieuenctid ac yn meithrin sêr y dyfodol. A’r adnodd bwysicaf oll, yn fy marn i? Y meysydd chwarae!

Mae’n gas gen i feddwl faint o rygbi sy’n cael ei golli o un wythnos i’r llall pan mae’r gaeafau gwlyb a rhewllyd yn taro. Dwi’n hyfforddi tîm hŷn a dan 13 Llandeilo; clwb hanesyddol, sydd newydd ddathlu canrif a hanner o fodolaeth; clwb oedd yno yng Nghastell Nedd, nôl ym 1881 fel un o sefydlwyr gwreiddiol ein hundeb; tîm sydd wedi cynhyrchu tomen o sêr rhyngwladol, megis George Davies yn y dyddiau cynnar (dyfeisydd y ffug bás yn ôl pob sôn!) ac yn fwy diweddar, Luke Charteris a Rhys Priestland.

Ond mae Priestlands y dyfodol yn cael eu hamddifadu o’u hawl i chwarae’n ddigon aml. Pam? Achos eisoes eleni, mae bron i hanner gemau iau a ieuenctid Llandeilo wedi methu â chael eu chwarae oherwydd meysydd soeglyd neu rewllyd, boed hynny gartre neu oddi cartre. Y llynedd, mi gafodd bron i 1 ymhob 3 gêm ar draws y tymor ei chanslo (oedran dan 7 i dan 15) oherwydd cyflwr y caeau. A dyw Llandeilo ddim yn eithriad; mae hyn yn batrwm cyffredin i dimoedd iau ac amateur sy’n chwarae ar feysydd porfa yma yng Nghymru!

Mae’n ffaith, dysgu drwy chwarae yw’r ffordd orau i blentyn ddatblygu ei sgiliau. Tybed beth yw’r gymhariaeth gyda gwledydd fel De Affrica, sydd newydd godi Cwpan Webb Ellis am y pedwerydd tro? Faint yn fwy o gemau fydd plant Cenedl yr Enfys wedi profi cyn iddyn nhw gyrraedd y deunaw? S’dim dwywaith ein bod ni’n cael ein gadael ar ôl, a mae angen buddsoddi ar frys mewn meysydd artiffial pwrpasol (neu “rubber crumb”) ar hyd a lled y wlad, os am unrhyw obaith o gau’r bwlch.

Ydy, mae’r meysydd 3G yma yn ddrud, ond beth am i ni feddwl y tu allan i’r bocs? Beth petai’r campau yng Nghymru yn dod at ei gilydd a chyd-fuddsoddi yn y cyfleuster angenrheidiol yma? Beth am i Chwaraeon Cymru gael pawb o gwmpas y ford a chanfod ffordd ymlaen fydd yn elwa pob un, ond yn bwysicaf oll ein plant a’n pobl ifanc? Yn chwaraewyr hoci, rygbi a phêl-droed; yng ngeiriau arwyddair y Gymdeithas; Gorau Chwarae, Cyd-Chwarae!

Cwestiwn arall i’w ystyried yw; a oes angen i’n chwaraewyr cenedlaethol hawlio bonws enfawr am y fraint o gynrychioli ein gwlad? Yn ôl erthygl gan Andy Howell yn Wales Online nôl yn 2019 (wedi i Gymru gael rhediad diguro dros ddeuddeg mis) mi wnaeth ein chwaraewyr rhyngwladol bocedu hyd at £166,000 yr un, a hynny’n ychwanegol i’w cyflogau rhanbarthol. Oni allai rhywfaint o’r arian yma gael ei wario mewn ffordd fwy… buddsoddol?

Dwi’n wirioneddol obeithiol am y dyfodol, ond mae’r gobaith yma’n ddibynnol ar yr Undeb ar ei newydd wedd yn edrych ar bethau’n hir dymor. Gadewch i Gatland boeni am ennill y gêm ryngwladol nesa. Fy neges i i Collier-Keywood a’i fwrdd yw i gynllunio strategaeth a gweledigaeth sy’n caniatáu i’r gamp yng Nghymru ffynnu ar bob lefel am ganrif a hanner arall. Buddsoddwch yn yr ieuenctid er mwyn gosod seiliau cadarn i ddyfodol y tîm cenedlaethol; seiliau fydd yn gwneud ennill Cwpan y Byd yn realiti ryw ddydd, yn hytrach na breuddwyd ffôl.

Mae’r gwaith o ail-adeiladu eisoes wedi dechrau i’r rhanbarthau, a dwi’n gyffrous i weld sut all y genhedlaeth nesa o chwaraewyr – sydd wedi camu allan o gysgodion enfawr Alun Wyn-Jones, Liam Williams, ac eraill – ddatblygu.

Ydyn, mae’r rhanbarthau yn llechu eto yn hanner isa’r tabl, ond y gwir yw, dydyn ni ddim tamaid gwaeth nawr nag yr oedden ni yr un adeg y llynedd (cyn i’r alltud fawr daro). Fel un sy’n gweithio ar y gemau yma yn wythnosol, be’ dwi’n gweld yw bois ifainc sydd â thân yn eu boliau a phwynt i’w brofi, yn mynd ben ben â’r mawrion. Ieuenctid sydd o’r diwedd yn cael cyfle i ddatblygu drwy chwarae ar y safon uchaf.

Ydy, mae’n dywyll ganol gaeaf. Ond dwi’n ffyddiog y daw eto, cyn hir, haul ar fryn!