Mis wedi Pencampwriaeth Ironman y Byd y Dynion yn Nice, Ffrainc, dydd Sul 13eg o Hydref oedd tro’r menywod. Er i ras y dynion cael ei chynnal tu allan i Unol Daleithiau America am y tro cyntaf, cynhaliwyd y ras hon yn y lleoliad traddodiadol sef Kailua-Kona, Hawaii.

Mae’r cwrs yn Kona yn sicr yn un eiconig. Mae’r ras yn dechrau wrth nofio 3.8 milltir, heb siwt wlyb, yn nŵr clir Kailua Bay gyda’r nofwyr yn gweld cwrel prydferth, crwbanod a physgod lliwgar oddi tanynt.