Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd dau dîm merched newydd yn cynrychioli Cymru yn yr Her Geltaidd y tymor hwn.

Enwau’r ddau dîm newydd o Gymru fydd Gwalia Lightning a Brython Thunder.

Mae enwau’r ddau dîm Cymreig – sy’n eiddo i Undeb Rygbi Cymru – wedi’u hysbrydoli gan Brython – sef pobl fu’n siarad un o’r ieithoedd Brythoneg gwreiddiol –  a Gwalia, sy’n enw arall a chyfarwydd am Gymru. Dewiswyd y ddau enw yn dilyn trafodaethau gyda chwaraewyr presennol.