Fe fydd cwrs rasio Penbre yn croesawu Clwb Rasio Ceir Prydain yn ôl wythnos nesaf, 7-8 Hydref, ar gyfer dau ddiwrnod llawn cyffro gyda’r mawrion pwysau trwm – Pencampwriaeth Rasio Tryciau Prydain – yn uchafbwynt i’r penwythnos.

Yn ffefrynnau yn y gorllewin, does dim dwywaith y bydd cewri rasio tryciau, sy’n pwyso pum tunnell yr un, yn denu’r torfeydd wrth i’r frwydr am oruchafiaeth ar frig Adran 1 ac Adran 2 ddwysau – gyda’r penwythnos yn ras olaf ond un ar y calendr yn 2023.