Fe fydd Pencampwriaeth Rali’r Byd yn symud ymlaen i Dde America, ac i ranbarth Bio Bío yn Tsile, penwythnos nesaf (28 Hydref-1 Hydref) gyda’r ras i’r brig yn dal yn fyw i’r Cymro Elfyn Evans.

Gorffen yn yr ail safle oedd hanes Evans yn Rali Acropolis, Groeg, ar ddechrau’r mis a hynny er gwaetha’r tywydd garw a’r llifogydd a ddioddefodd ardaloedd health o’r wlad. Ei gyd-yrrwr Toyota Kalle Rovanperä sy’n dal ar frig y tabl gyda 33 pwynt yn gwahanu’r ddau.