Mae Ruby Evans, sy’n aelod o Glwb Cymru Caerdydd, wedi ei henwi yn nhîm menywod Prydain Fawr ar gyfer Pencampwriaethau Artistig y Byd a fydd yn cymryd lle yn Antwerp, Gwlad Belg, rhwng 30ain Medi a 8fed Hydref.

Fe fydd Ruby, sy’n 16 mlwydd oed, yn cystadlu ochr yn ochr â Alice Kinsella, Georgia-Mae Fenton, Ondine Achampong a’r bencampwraig llawr presennol Jessica Gadirova.