Daeth Calan Gaeaf, diwrnod cynta’r Gaeaf, yr wythnos hon gan ein tynnu ni gerfydd y gwynt a’r glaw mawr i ddyfnderoedd y tymor oer a gwlyb hwn.

I ni seiclwyr, gyda phob dydd sy’n pasio, mae apêl estyn am y beic o’r garej neu’r sied a mentro allan i’r tywydd garw yn cilio.

Fodd bynnag, mae ’na’n dal i fod posib mwynhau troi’r pedalau drwy’r “mis dig du”, fel y cyfeiriodd Dafydd ap Gwilym at fis Tachwedd; cyn belled â’n bod ni’n barod am yr hyn sydd o’n blaenau.