Addaswyd y penwythnos ychydig, diolch i storm Babet, ond doedd hynny ddim yn ddigon i rwystro pob gêm gyda rhai gemau cyffrous wedi cymryd lle.
Gohirio
Gohiriwyd tair gêm dros y penwythnos, ond dim ond un oherwydd y storm, gyda’r ddwy arall ar gais un o’r timau. Gohiriwyd gêm COBRA a’r Bala oherwydd y storm gyda chae Meifod yn un o’r gwaethaf am fynd o dan ddŵr.