Mae’r prop pentynn rhyngwladol, Samson Lee, wedi cyhoeddi ei fod wedi ei orfodi i ymddeol o rygbi oherwydd anaf.

Nid yw’r gŵr 31 oed wedi chwarae ers mis Mawrth 2022 ar ôl dioddef anaf i’w ’achilles’, ac fe ddaeth y cyhoeddiad swyddogol ddoe, Iau14eg Rhagfyr, bod yn rhaid iddo rhoi’r gorau i’w yrfa.

Yn fachgen lleol o Lanelli, fe ddatblygodd Lee trwy system academi’r Scarlets gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2012 yn erbyn narbonne.