Mae digwyddiad moduro dan do mwyaf Prydain yn dychwelyd i Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 2 Medi.
Yn dilyn achlysur arbennig 2022, gyda’r Grand Prix yn dathlu ugain mlynedd yng Nghaerdydd, mae digwyddiad eleni yn addo bod yn fwy nag erioed.
Mae sain y peiriannau 500cc yn mynd olwyn-i-olwyn o dan do Stadiwm Principality, i grescendo o fonllefau a chyrn awyr o’r standiau yn eithaf eiconig.