Wedi methu â chael y canlyniadau oedd eu hangen i fynd drwodd i Ewro 2024 ar y cynnig cyntaf yr wythnos hon, y gemau ail gyfle ym mis Mawrth fydd nesaf i Gymru.
Gêm gyfartal, 1-1, gafwyd neithiwr yn Stadiwm Dinas Caerdydd mewn gêm ddigon fflat gyda Thwrci drwodd i’r Ewros eisoes yn barod ac yn gwneud hynny gan orffen ar frig y grŵp.
Neco Williams roddod Cymru ar y blaen ar ôl saith munud gyda Chymru’n chwarae’n weddol dda ar y cyfan.