Roedd mis Tachwedd yn fis prysur i’r timau iau cenedlaethol gyda’r timau Dan 16, 17 ac 21ain yn chwarae yn ystod y mis.
Tîm Dan 17
Chwarae yng ngemau rhagbrofol UEFA oedd y tîm dan 17 ar ôl i’w gemau ym mis Hydref gael eu gohurio oherwydd y rhyfel yn Israel a Gaza. Symudwyd y gemau i Gymru ac ond 3 tîm sydd yn y grwp bellach ac ôl i Israel dynnu allan.
Gwlad Belg a Gibraltar oedd gwrthwynebwyr Cymru. Gwlad Belg oedd y gêm gyntaf yng Nghaerdydd. Gêm dynn iawn gyda dim yn gwahanu’r ddau dim nes y funud olaf. Elliot Myles o Norwich yn crymanu’r bêl gydag ergydiad o ymyl y cwrt yn taro cefn y rhwyd. Myles yn rhywdo unig gôl y gêm gan sicrhau buddugoliaeth 1-0 i Gymru.
Y gêm olaf yng Ngrwp 12 oedd Cymru yn erbyn Gibraltar draw ym Mharc y Ddraig, Casnewydd. Cychwyn perffaith i’r gêm i Gymru gyda gôl i ymosodwr West Brom Oliver Bostock. Ond er y cyfleuon ond gôl oedd ynddi ar yr hanner. Ar ddechrau’r ail hanner dyma Cruz Allen yn dyblu mantais Cymru cyn i amddiffynwr Abertawe, Iestyn Jones, rhwydo’r drydedd. Yn coroni y fuddugoliaeth Louis Griffiths gyda’r 4ydd wedi rhediad gwych i’r cwrt cosbi yn y funud olaf. Cymru yn fuddugol o 4-0 ac yn gorffen ar frig y Grwp rhagbrofol gyda dwy fuddugoliaeth.
Bydd y Tim yn mynd ymlaen i’r Rowndiau Elite yn Mis Mawrth. Gyda’r enwau yn cael ei tynnu yn ystod Mis Rhagfyr.
Tîm Dan 21
Roedd y Tîm Dan 21ain wedi cael cychwyn da i’w ymgyrch rhagbrofol gyda’r tim yn ddi guro wedi 3 gêm ac wedi chwarae pob un gêm oddi cartref. Felly, braf oedd cael 2 gêm gartref draw yn Rodney Parade, Casnewydd.
Yn y gêm gyntaf o’r ddwy, Gwlad yr Iâ oedd y gwrthwynebwyr, a’r tîm oddi cartref oedd ar frig y grŵp wedi ennill ei dwy gêm hyd yma. Cychwynodd y gêm yn weddol dynn gyda’r naill dim na’r llall yn creu. Gyda 28 munud ar y cloc daeth cic gornel i Gymru a honno’n cael ei chlirio gan Wlad yr Iâ ond Cymru yn cadw’r meddiant. Yna, croesiad gan Tom Davies i’r postyn pellaf a’r amddifynwr Joe Low yn penio’r bêl i gefn y rhwyd i rhoi Cymru ar y blaen. 3ydd gôl amddiffynwr Wycombe drost y tîm Dan 21ain.
Roedd y gôl wedi rhoi hyder i Gymru a bu bron iddynt ddyblu eu mantais funud yn ddiweddarach ond ergyd Rubin Colwill oddi ar y targed. Llwyddodd Gwlad yr Iâ i ganfod cefn y rhwyd wedi 36 munud, croesiad o’r dde a’r ymosodwr Rosenborg Kristall Ingason yn rhwydo yn y cwrt bach. Ond cafodd y gôl ei wrthod am iddo lawio’r bêl. Teg dweud ei fod yn benderfyniad dadleuol gyda’r bêl yn edrych fel ei fod wedi dod oddi ar ei ysgwydd yn hytrach nai’ fraich. Cymru ar y blaen o gôl i ddim ar yr egwyl.
Cychwynodd Cymru’r ail hanner yn dda, peniad cynnar gan Rubin Colwill ond roedd yn arbediad hawdd i’r golwr. Wedi awr roedd y bêl yng nghefn y rhwyd unwaith eto. Croesiad o’r dde gan Fin Stevens a pheniad Josh Thomas ond roedd trosedd gan yr ymosodwr yn y cwrt bach. Munudau yn ddiweddrach roedd trosedd arall gan y gwr ar fenthyg yn Port Vale. Thomas yn troi yr amddiffynwr yn wych, ond golwr Gwlad yr Iâ Adam Bendiktsson yn cyrraedd y bêl cyn Thomas a’r ymosodwr yn taro pên y golwr gyda’i ben glin. Yn anffodus i Thomas a Gymru dangosodd y dyfarnwr o Fosnia y cerdyn coch a Chymru lawr i 10 dyn am yr hanner awr olaf.
Roedd Gwlad yr Iâ yn trio manteisio ar y dyn ychwanegol ond er croesiadau peryg roedd amddiffyn Cymu yn gadarn. Daeth cyfle gwych i’r tîm oddi cartref 10 munud cyn y diwedd. Gwaith da gan Ari Sigurpálsson ac Ingason cyn canfod y capten Andri Baldursson ond aeth ei ergyd droed chwith heibio’r postyn.
Roedd y tîm oddi cartref yn curo ar y drws ac yn y 7 munud ychwanegol daeth 2 gyfle. Peniad gan Danijel Djuric ond y peniad yn mynd yn syth i ddwylo Beach yn y gôl. Yna gwrth ymosodiad cyflym a chyfle i Ingason ond unwaith eto golwr Chelsea yn y lle iawn a Chymru yn dal ei gafael ar y fuddugoliaeth a thîm Matty Jones yn neidio uwchben Gwlad yr Iâ i frig y grwp.
Dyddiau yn ddiweddarach roedd y garfan yn ôl ar Rodney Parade yn barod i wynebu Denmarc, a hynny ar ôl gêm gyfartal o ddwy gôl yr un yn y gêm gyfatebol ym mis Mehefin.
Y cychwyn gwaethaf posib i Gymru wrth i’r ymwlewyr fynd ar y blaen o fewn 5 munud. Lle yng nghanol cae gan Oliver Sørensen a phas berffaith i lwybyr Tobias Bech a’r ymosodwr yn pasio’r bêl heibio i Beach yn y gôl.
Cafwyd ymateb da gan Gymru a chyfle i Luke Harris o gic gornel ond y bêl yn dod oddi ar ei ysgwydd drost y trawst. Daeth cyfle arall i Harris wedi gwaith da gyda Owen Beck ond y golwr yn arbed ei ergyd tro hwn. Bu rhaid i Ddenmarc ddiolch i’w golwr Jorgensen unwaith eto wrth iddo arbed ergydiad o bum llath ar hugain gan Charlie Savage.
Wedi cyfleon i Gymru daeth cyfle i Ddenmarc. Cic rydd o bellter yn cael ei chroesi i’r cwrt cosbi a peniad Oliver Nielsen syth i ddwylo Beach. Cyn yr hanner un cyfle arall i Gymru; rhediad perffaith gan Joe Taylor i’r cwrt cosbi a’i ergyd isel i’r postyn pellaf yn cael ei arbed yn wych gan y golwr Jorgensen. Cymru ar ei hôl hi ar yr hanner o gôl i ddim.
Dechrau ail hanner a chyfle o gic gornel i Ddenmarc gyda peniad Thomas Kristiansen ar y postyn agosaf i’r rhwyd ochr. Daeth hanner cyfle i Gymru gan Luke Harris a Charlie Savage ond dim byd i boeni golwr Denmarc. Chwarter awr yn weddill, gwaith gwych ar y dde gan Lucas Hey a Oscar Fraulo i Ddenmarc ac ergydiad o ongl dyn gan Hey yn cael ei arbed yn dda ar y postyn agosaf gan Beach.
Erbyn hyn roedd bylchau yn amddiffyn Cymru a Denmarc yn gwrthymosod. Daeth cyfle euraidd i’r eilydd Viktor Lind ond aeth ei ergyd drost y trawst. Yn y funud olaf daeth ail gôl i’r ymwelwyr gyda chic gornel o’r dde a pheniad ar y postyn agosaf gan y capten Oliver Nielsen yn canfod y rhwyd 2-0.
Ond roedd dal cyfle am gôl arall. Rubin Colwill a chic rydd o 20 llath yn cael ei arbed yn wych gan y golwr ac ar yr ail gynnig Cian Ashford yn rhwydo am gôl gysur gyda chic olaf y gêm. Cymru yn colli o 2-1 a record di guro tîm Matty Jones drosodd. Er y canlyniad siomedig bydd y garfan yn falch o’r cychwyn maent wedi ei gael i’r ymgyrch gan eistedd yn yr ail safle mewn grwp cystadleuol iawn.
Tîm Dan 16
I orffen mis Tachwedd roedd y tîm dan 16 yn dychwelyd i chwarae yn nhwrnament y Victory Shield. Eleni roedd y gemau yn cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru. Yn y gêm gyntaf roedd Cymru’n wynebu Gogledd Iwerddon yn Nhinbych. Gogledd Iwerddon aeth ar y blaen gyda George Feeney a pheniad rhydd yn y cwrt yn rhoi’r ymwelwyr ar y blaen. Gyda 4 munud yn weddill rhwydodd Patrick Mlynarski o Everton wrth iddo rhoi’r bêl drwy goesau’r golwr i gael gêm gyfartal i Gymru.
Yn yr ail gêm fe wynebodd Cymru Weriniaeth Iwerddon ac roedd hi’n gêm llawn digwyddiadau. Aeth Cymru ar y blaen wedi 2 funud wrth i Jaydon Lienou rhwydo yn uniongyrchol o gic cornel. Cyn yr hanner dyblodd Cymru eu mantais gyda Liuie Bradbury yn gorffen gwrthymosodiad gwych. Roedd yr ail hanner yn stori wahanol. Cic o’r smotyn dadleuol i Iwerddon gyda Michael Noonan yn rhywdo. Munudau yn ddiweddarach daeth ail gic o’r smotyn ond llwyddodd golwr Cymru, Eliot Meredith, i’w harbed hi. Er hynny rhwydodd Noonan ei ail o’r gêm i Iwerddon o’r gic cornel. Yn yr amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm daeth y trydedd gic o’r smotyn i’r tîm oddi cartref, ac Oladiti yn rhwydo o’r smotyn i ennill y gêm o 3-2 a chipio’r tlws am yr ail flynedd yn olynol.
Yr Alban oedd gwrthwynebwyr olaf Cymru draw yn y Bala gyda Chymru yn sicrhau buddugoliaeth ar Faes Tegid. Llwyddodd Jaydon Lienou i roi Cymru ar y blaen â gôl arbennig o’r gwrth ymosodiad o gwrt cosbi ei hun, a rhediad ar hyd y cae at ymyl y cwrt pen arall, cyn ergydiad wych ar ei droed chwith. Peniodd Tom Deardon yn yr ail hanner i rhoi buddugoliaeth 2-0 i Gymru. Fe orffennodd Cymru’n ail yn y tlws eleni.