Tra y byddwch chi’n gloddesta ar y twrci a’r holl lysiau, y caws blodfresych ac yn cael llwyaid ychwanegol o stwffin, meddyliwch am y bois sy’n gorfod dweud ‘dim diolch’ i’r mins pei a’r pwdin Dolig am eu bod nhw’n mynd i fod yn rhedeg rownd cae ar Ŵyl San Steffan!

Gyda’r rhanbarthau yn mynd benben yn erbyn ei gilydd a siwrne’r Swans a Chaerdydd yn parhau ym Mhencampwriaeth yr EFL, does dim seibiant!