Gemau allweddol yn erbyn Gwlad yr Iâ a’r Almaen sy’n wynebu carfan Cymru dros y dyddiau nesaf er mwyn osgoi cwympo o Gynghrair A Cynghrair Cenhedloedd Merched UEFA.
Mae’r ddwy gêm gartref, yn erbyn Gwlad yr Iâ nos Wener (1af Rhagfyr) a’r Almaen nos Fawrth (5ed Rhagfyr) yn mynd i fod yn her wrth i Gymru frwydro yn erbyn Gwlad yr Iâ am y trydydd safle.