Rownd yr wyth olaf oedd diwedd y daith i dîm rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd 2023, colli o 17-29 yn erbyn yr Ariannin, ym Marseille, prynhawn Sadwrn diwethaf.
Roedd yna sawl eiliad bwysig, tyngedfennol o bosib. Y dyfarnwr Jaco Peyper yn gorfod rhoi’r gorau i’w waith yng nghanol cae oherwydd anaf, y dacl ar Nick Tompkins a’r penderfyniad i beidio a chosbi Guido Petti am arwain gyda’i ysgwydd, a’r bas a rhyng-gipiwyd ym munudau olaf y gêm.