Gyda’r Gymraes Mimi Xu yn sicrhau ei lle yn rownd wyth olaf parau agored iau’r US Open, gyda’i phartner Hannah Klugman, mae’n sylw ar gyfer tîm yr wythnos yn troi at ei chlwb cyntaf!
Sefydlwyd Clwb Tennis a Sboncen Abertawe gan grŵp o wirfoddolwyr dros hanner canrif yn ôl. Wedi ei leoli oddi ar Heol y Mwmbwls yng nghanol clwstwr o goed, mae gan y clwb olygfeydd godidog o Fae Abertawe.