Llongyfarchiadau mawr i’r Dreigiau Celtaidd Iau a sicrhaodd le yn rownd terfynol Cwpan Polo Dŵr BMC yn Dunfermline, yr Alban, penwythnos diwethaf.

Tîm Polo Dŵr merched dan 18 Cymru oedd yn chwifio baner y ddraig goch yn y gystadleuaeth, yn cystadlu o dan yr enw Dreigiau Celtaidd Iau.

Yn rownd agoriadol y grŵp, bu’n rhaid i’r Dreigiau wynebu tîm Kirkintilloch a Kilsyth, gan sicrhau buddugoliaeth o 15-11.