Colli’r gêm oedd hanes Rygbi Caerdydd prynhawn Sadwrn ond maent yn gyflym iawn yn ennill clod am yr awyrgylch a’r momentwm y maen nhw’n ei greu ym Mharc yr Arfau.
Ar ôl i’w dîm sicrhau buddugoliaeth o 16-12 ddydd Sadwrn dywedodd Pete Wilkins, hyfforddwr Connacht, mai dyna’r awyrgylch gorau iddo brofi erioed ar Barc yr Arfau.
Gyda phob tocyn wedi gwerthu, a’r lle yn orlawn, roedd hi’n achlysur emosiynol ar yr hen faes enwog wrth i’r tîm dalu teyrnged deimladwy i Barry John, arwr Cymru a’r Llewod, cyn y gêm a fu farw yn 79 oed yn gynharach y mis hwn.
Ymhlith rheini oedd ar y cae yn talu teyrnged i’r Brenin oedd Syr Gareth Edwards, a osododd crys er cof am ei bartner yn yr haneri.
Roedd hefyd yn ddiwrnod clybiau rhanbarthol, gyda rhyw 3,700 o chwaraewyr iau, hyfforddwyr a chefnogwyr o 47 o glybiau cymunedol y rhanbarth yn bresennol fel rhan o’r 12,000 oedd yn bresennol.
Yn anffodus bu’n rhaid i Gaerdydd chwarae gyda 14 dyn ar ôl 14 munud o chwarae wrth i’r canolwr Rey Lee Lo weld cerdyn coch ac yna’r wythwr Lopeti Timani yn gweld cerdyn melyn ac oddi ar y cae am ddeng munud hefyd.
Roedd pwysau cynyddol Connacht yn ormod yn y diwedd gyda’r Gwyddelod yn sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ar Barc yr Arfau ers Chwefror 2017.
Wrth fyfyrio ar yr achlysur, dywedodd Wilkins: “Yn aml byddwch yn cael munud o dawelwch neu funud o gymeradwyaeth. Dyna natur bywyd yn anffodus.
“Ond o wybod arwyddocâd Barry John yn y rhan yma o’r byd a’r parch tuag ato, roedden ni’n gwybod y byddai’n enfawr.
“Yn aml rydych chi’n gweld yr ymateb nid yn unig gan y tîm rydych chi’n chwarae yn ei erbyn ond holl deimlad y lle.
“Dydw i erioed wedi ei weld mor llawn â hyn yma ac roedd yr awyrgylch yn wych. Maen nhw’r math o amgylcheddau rydych chi’n gyffrous am gystadlu ynddynt. Mae’n amlwg yn anodd pan fyddwch chi’n cystadlu, ond mae’n hysbyseb wych ar gyfer rygbi ac i Gaerdydd fel clwb.
“Dyma’r awyrgylch gorau dwi erioed wedi’i brofi yma ym Mharc yr Arfau. Roedd yn aruthrol.
“Roeddwn i wrth fy modd i’w hennill. Mewn saith mlynedd gyda Connacht, nid wyf erioed wedi ennill yma. Mae’n lle anodd i ddod i chwarae.”
Dywedodd Matt Sherratt, prif hyfforddwr Caerdydd: “Ni allaf ddiolch digon i’r cefnogwyr.
“Dyma’r tro cyntaf i mi weld Parc yr Arfau dan ei sang tra bod pencampwriaeth y Chwe Gwlad ymlaen.
“Mae’r chwaraewyr yn dangos eu hysbryd, ond mae ein cefnogwyr yn dangos eu hysbryd hefyd. Mae wir yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r chwaraewyr. Cyn y gêm, gallwch chi ei deimlo yn yr ystafell newid.”
Ar y gêm ei hun, dywedodd: “Mae gennym ni 12 yng ngharfan Cymru, mae gennym ni un neu ddau o anafiadau, ac roedd Connacht yn cyrraedd yma gyda thîm cryf.
“Ro’n i’n dal i feddwl y gallen ni fod wedi ennill y gêm gyda 14. Mae’n anodd achos dw i’n gwybod beth mae’r chwaraewyr wedi rhoi mewn iddo.
“Roedd yn ystafell newid digon digalon, os ydw i’n onest. Roedden ni drwch blewyn o sicrhau buddugoliaeth, felly wrth gwrs rydych chi’n siomedig yn syth ar ôl y gêm.”
Er y golled, fe lwyddodd Caerdydd i gasglu pwynt bonws am fod o fewn saith pwynt i sgôr Ulster.
Aeth Sherratt ymlaen i ddweud; “Efallai ei fod yn bwynt a enillwyd yn hytrach na phedwar wedi’u colli.”
Mae Caerdydd bellach wedi cipio wyth pwynt bonws y tymor hwn, y cydradd fwyaf yn y gynghrair ynghyd ag Emirates Lions.