Bydd aduniad tad a mab arbennig iawn yn yr URC BKT y penwythnos hwn wrth i John a Taine Plumtree fynd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf.

Pe bai pethau wedi gweithio allan yn wahanol, gallent fod wedi bod gyda’i gilydd yn y Hollywoodbets Sharks gan fod yr hyfforddwr John yn awyddus i ddod â’i fab draw i Durban o Seland Newydd.

Ond dewisodd Taine, a gafodd ei eni yn Abertawe tra roedd ei dad yn hyfforddi yno, ddod i Gymru, gan ymuno â’r Scarlets o dîm y Blues yng nghynghrair Super Rugby.

Fe fydd y Sharks yn Llaenlli heno ac mae’r llwyfan yn barod ar gyfer yr ornest fawr.

Dywedodd Taine: “Mae rhywfant o sgwrsio wedi bod rhyngof i a dad dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

“Arhosais yn eu gwesty ddydd Sul am nad wyf wedi eu gweld ers mis Medi ac roedd yn dda iawn dal i fyny.

“Mae’n mynd i fod yn achlysur eitha cŵl i ni. Bydd yn berthynas deuluol braf gydag ef i fyny’r grisiau a fi i lawr ar y cae.

“Does dim gelyniaeth o gwbl. Mae’n dipyn o jôc rhyngom ni nawr. Os mai fydd ar y brig ar ôl y gêm efallai gai fod yn ben y bwrdd amser swper pan fyddaf yn ôl yn Seland Newydd!”

Wrth siarad am ei berthynas â’i dad, dywedodd Taine, 24 oed: “Rwyf bob amser wedi edrych i fyny ato.

“Rydw i wedi bod o gwmpas rygbi trwy gydol fy oes, felly roedd yn rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed. Nid yw erioed wedi bod yn un i fy ngwthio i wneud rhywbeth oherwydd dyna beth roedd eisiau i mi ei wneud.

“Mae wastad wedi bod y math yna o biler yn y cefndir sydd wedi fy helpu gyda fy rygbi trwy fy ngyrfa, gan roi cyngor eithaf teilwng i mi, ac mae’n dal i wneud hynny.

“Rydyn ni bob amser yn dal i fyny ar ôl gêm. Mae’n rhoi cwpl o awgrymiadau i mi ar yr hyn mae’n meddwl wnes i’n dda a beth mae’n meddwl y gallwn i ei wneud yn well ac ni fydd hynny’n newid y penwythnos hwn chwaith.

“Fe fyddwn ni’n dal i fyny nos Wener am beint, heb os, ac yn sgwrsio am y gêm.”

Nid yw ei dad John wedi gwneud unrhyw gyfrinach o’r ffaith y byddai wedi hoffi gweithio gyda’i fab, a chwaraeodd i’r Blueseision a Wellington yn Seland Newydd.

“Roeddwn i eisiau iddo ddod i’r Sharks, ond cyn gynted ag oedd Warren Gatland yn rhan o’r sgwrs, roedd y cyfan drosodd, roedd yn anelu am Gymru,” meddai cyn hyfforddwr cynorthwyol y Crysau Duon.

“Rwy’n falch iawn ohono. Mae wrth ei fodd yn y Scarlets. Mae’n caru’r Cymry ac mae’n hapus. Felly os yw’n hapus, rwy’n hapus.”

Wrth ystyried a oedd unrhyw obaith realistig iddo ymuno â’r Sharks, dywedodd Taine:

“Roedd y llwybr i Gymru fwy neu lai wedi ei osod yn barod. Rydw i eisiau cael fy hyfforddi ganddo rhybryd yn fy ngyrfa, ond rydw i eisiau gwneud enw i mi fy hun cyn i mi gael fy nhad fel hyfforddwr.

“Mae yna bethau cadarnhaol ac ychydig o bethau negyddol am gael eich tad fel hyfforddwr. O ran lle rydw i yn fy ngyrfa, dydw i ddim yn meddwl fy mod yn barod am hynny eto. Rwyf am i’m holl gyflawniadau fod oherwydd fy ngwaith fy hun.”

Ar ôl cytuno i ymuno â’r Scarlets, cafodd Plumtree ei enwi yng ngharfan hyfforddi Warren Gatland ar gyfer Cwpan y Byd yr haf diwethaf a dechreuodd ei gêm brawf gyntaf yn erbyn Lloegr ym mis Awst.

Ond ni lwyddodd i gyrraedd Cwpan y Byd oherwydd anaf i’w ysgwydd a bu’n rhaid iddo dderbyn llawdriniaeth arno.

Bellach, ar ôl pum mis oddi ar y cae, mae’n ôl yn chwarae i’r Scarlets ac yn barod am achlysur teuluol arbennig iawn.