Mae pencampwriaeth BKT URC wedi bod yn canolbwyntio yn ddiweddar ar darddiad chwaraewyr y gynghrair.
Pwrpas y Rowndiau Tarddiad (Origin Rounds) yw rhoi sylw a thalu teyrnged i’r clybiau, ysgolion ac unigolion sydd wedi cefnogi’r chwaraewyr o’r dechrau’n deg.
Mae Ellis Bevan hefyd yn gwneud ei orau glas i gefnogi’r gêm ar lawr gwlad.
Mae mewnwr Rygbi Caerdydd wedi ymuno â Chlwb Pentyrch fel hyfforddwr cynorthwyol ac mae e’n ceisio bod yn bresennol yng ngemau’r clwb, sy’n chwarae yn yr ail adran, pan fo hynny’n bosib.
“Mae’n glwb gwych gyda phobl dda ac rwy’n mwynhau,” meddai Bevan.
Does dim dwywaith bod Clwb Pentyrch yn gwerthfawrogi ei gyfraniad hefyd, gyda’r ysgrifennydd Alun Davidson yn dweud; “Mae’n braf gweld Ellis yn rhoi yn ôl i glwb llawr gwlad o fewn ei rhanbarth.
“Rydyn ni’n falch iawn o’i groesawu i’r clwb ac yn gobeithio’n fawr y bydd yn mwynhau ei amser yn hyfforddi gyda ni.”
Ganwyd Bevan yn Lloegr, ond mae’n gymwys i gynrychioli Cymru oherwydd ei dad. Mae’r mewnwr yn ymwybodol iawn o’r effaith y cafodd clybiau llawr gwlad ar ei daith ef pan oedd yn ifanc.
Wedi ei fagu yn Solihull, bu’n aelod o ddau dîm lleol – Pertemps Bees ac Old Silhillians – cyn mynd ymlaen i astudio yng Ngholeg Bryanston, Dorset, ac yna i Met Caerdydd.
Yng ngêm Caerdydd penwythnos diwethaf, penderfynu gwisgo sanau Met Caerdydd wnaeth Bevan, gan ddangos ei werthfawrogiad am eu cefnogaeth.
Cafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru dan 18, dan 19 cyn symud ymlaen i’r garfan dan 29. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y Brifysgol, yn 2020, lle’r oedd yn astudio busnes a’r gyfraith, cafodd gynnig i ymarfer gyda Rygbi Caerdydd. Yn dilyn ei gyfnod gyda nhw cafodd gynnig cytundeb rhanbarthol.
“Rwyf wedi gweithio’n galed i fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol. Dyna yw’r freuddwyd wedi bod erioed,” meddai.
Er iddo gael ei eni a’i fagu dros Glawdd Offa, mae ei wreiddiau Cymreig yn amlwg.
“Cafodd dad ei fagu yn y Sgeti yn Abertawe. Symudodd i Loegr yn ei ugeiniau oherwydd gwaith ac mae wedi bod yno byth ers hynny.
“Cafodd effaith enfawr arnai o ran fy Nghymreictod. Rydyn ni wastad wedi bod yn dy Cymreig yn nhermau meddylfryd y peth.
“Fy atgof cynharaf o rygbi yw Shane Williams mwy na thebyg. Ef oedd fy arwr. Fe wnes i ddechrau dangos diddordeb go iawn yn 2012, 2013 gyda’r Gamp Lawn a thaith y Llewod lle’r oedd yna ddylanwad Cymreig mawr.
“Roedd Shane Williams a Mike Phillips yn rhan fawr o bob peth bryd hynny a George North.
“Wrth i fi ddatblygu fel mewnwr, fe wnes i edrych at Aaron Smith am y manylion technegol a Mike Phillips fel mewnwr corfforol.”
Mae Bevan wedi gorfod bod yn amyneddgar gyda Rygbi Caerdydd gyda’r chwaraewr rhyngwladol Tomos Williams yn cadw crys rhif 9 yn gynnes.
Gyda Williams ar ddyletswydd ryngwladol ar hyn o bryd roedd hi’n amser i Bevan ddechrau yn erbyn Connacht penwythnos diwethaf.
“Mae Tomos yn chwaraewr da iawn i ddysgu oddi wrth, ond dydyn ni ddim yr un math o chwaraewr,” meddai.
“Rwy’n gwneud fy ngorau i fod y fersiwn gorau posib ohonof i fy hun. Rwy’n teimlo fy mod yn cynnig agwedd corfforol i’r gêm.
“Canolbwyntio ar wella a datblygu yw’r ffocws ar hyn o bryd. Nid wyf yn chwaraewr perffaith o bell ffordd, ond rwy’n gobeithio y gallaf barhau i weithio’n galed ac fe ddaw cyfleoedd.”