Wrth i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad agoshau, â’r diwrnod mawr lle bydd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn enwi ei garfan, mae’n gyfnod da i holi a fydd yna le i ambell wyneb newydd yn y garfan.

Mae sawl chwaraewr ifanc wedi bod yn dangos eu doniau ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig dros yr wythnosau diwethaf, a hynny er gwaethaf canlyniadau a pherfformiadau digon siomedig gan y rhanbarthau ar y cyfan.

Nawr efallai yw’r amser perffaith i Gatland rhoi cynnig a dechrau meddwl yn ehangach gyda chylchrediad Cwpan Rygbi’r Byd 2027 bellach ar droed.

Mae cyn gapten Cymru, Dan Biggar, a wnaeth ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd y llynedd wedi ymbil ar Gatland, mewn cyfweliad â Rugby Pass, i ddefnyddio Pencampwriaeth Chwe Gwlad eleni fel cyfle i roi rhediad i’r to ifanc.

Barn Biggar

“O safbwynt Cymreig,” meddai Biggar wrth Mark Chapman ar sioe Rugby Pass, “rydyn ni mewn cyfnod lle mae’n rhaid i ni ddarganfod ychydig mwy am chwaraewyr. Achos mae gennym ni lawer o chwaraewyr sy’n iawn ar ddechrau eu gyrfa, gyda llond llaw o gapiau efallai, a’r hyn a gawsom oedd llawer o chwaraewyr a oedd tua diwedd eu gyrfa gyda nifer fawr o gapiau.

“Felly o safbwynt Cymreig, mae’n anodd gwybod beth sy’n mynd i gael ei roi allan ar y cae oherwydd mae yna lawer o gyfuniadau anhysbys, llawer o chwaraewyr sy’n mynd i fod yn rhan o’u carfan gyntaf erioed.

“Felly allwn i ddim dweud wrthych chi sut mae’r Chwe Gwlad yn mynd i droi allan, ond dwi’n credu bod yna lot o Gymry ifanc dawnus yn chwarae yn y rhanbarthau ar hyn o bryd ac os ydych chi’n mynd i roi siawns i’r ieuenctid â diffyg profiad, dyma’r cyfle perffaith ar ddechrau cylch pedair blynedd cyn Cwpan y Byd a gallwch chi roi ar waith yr hyn yr hoffech chi adeiladu arno dros y tair blynedd a hanner nesaf.”

Yn ogystal â cholli Dan Biggar o’r garfan mae Alun Wyn Jones, Justin Tipuric a Leigh Halfpenny wedi ymddeol o’r gêm ryngwladol. Fe fydd Gatland hefyd heb Taulupe Faletau sy’n dychwelyd o anaf i’w fraich, Liam Williams sydd wedi symud i chwarae ei rygbi yn Siapan a’r capten ifanc ond profiadol erbyn hyn Jac Morgan sydd wedi derbyn llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Mometwm mor bwysig

Aeth Biggar ymlaen i ddweud; “Mae’r Chwe Gwlad yn dwrnamaint sy’n dibynnu gymaint ar fomentwm ac os ydych chi’n ennill eich cwpl o gemau cyntaf, mae’n dwrnamaint haws. Mae gennych chi’ch wythnos heb gêm i baratoi ar gyfer eich gêm nesaf. Tra os collwch chi eich un neu ddwy gyntaf, mae cymaint o bwysau ar eich gêm nesaf a’ch gêm nesaf ac yn sydyn iawn rydych chi’n edrych ar orffen yn bedwerydd neu bumed neu waelod y tabl.

“Yn fwy na unrhyw gystadleuaeth arall rydw i wedi chwarae ynddi, mae’n dwrnamaint mor ddibynnol ar fomentwm ac mae cael dechrau da mor bwysig.”

Pwy yw’r to ifanc felly?

Os ydych chi’n un sy’n dilyn rygbi rhanbarthol fe fydd nifer o’r enwau yma yn gyfarwydd i chi ond dewch i ni edrych ar rhai o’r chwaraewyr ifanc sydd wedi dangos digon dros yr wythnosau diwethaf efallai i gipio lle yng ngharfan Gatland.

Cam Winnett – Caerdydd

Gyda Liam Williams ddim ar gael ar ôl iddo symud i Japan a Leigh Halfpenny wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol, mae bwlch mawr i’w lenwi yn safle’r cefnwr. Mae Winnett, 21, wedi creu argraff aruthrol yn chwarae dros Rygbi Caerdydd gyda’i rediad gosgeiddig a’i gadernid o dan y bêl uchel.

Morgan Morris – Gweilch

Mae anafiadau i Taulupe Faletau, Jac Morgan a Taine Plumtree wedi agor y drws rhywfaint i’r rheng ôl. Petai’r cyhoedd yn cael eu ffordd byddai’n golygu lle uniongyrchol i Morris yn y garfan, fel un o’r perfformwyr mwyaf cyson yn y gêm ranbarthol ers dwy neu tri tymor. Ai dyma fydd ei gyfle?

Teddy Williams – Caerdydd

Yn un sy’n deillio o deulu rygbi llwyddiannus gyda’i dad Owain a’i ewythr Gareth ill dau wedi cynrychioli Cymru. Mae Williams yn glo athletig gyda digon o sgil sydd wedi bod yn dangos ei ddoniau yn y lein i Gaerdydd.

Ioan Lloyd – Scarlets

Ar ôl ennill ei gap rhyngwladol cyntaf yn ei arddegau nôl yn 2020, nid yw wedi cael ail gyfle yn y tair blynedd diwethaf. Mae ei benderfyniad i adael Bryste ac ymuno â’r Scarlets wedi rhoi cyfle iddo chwarae rygbi rhanbarthol yn rheolaidd, ac wedi rhoi cyfle iddo chwarae yn safle’r maswr. Gyda’i allu i chwarae fel cefnwr hefyd fe fyddai’n chwaraewr gwerthfawr i’r garfan.

Mackenzie Martin – Caerdydd

Mis Tachwedd oedd y tro cyntaf i ni weld Martin ar y cae yn cynrychioli Rygbi Caerdydd, ond fe wnaeth yn fawr o’r cyfle ac mae wedi parhau i brofi ei fod yn wythwr deinamig. Yn 6 troedfedd 5 modfedd a deunaw stôn chwe phwys, ‘Big Mac’, sydd ond yn 20 oed, yn gwlffyn.

Cai Evans – Dreigiau

Fel Ioan Lloyd, mae Evans, sydd wedi ennill un cap rhyngwladol, yn gallu chwarae yn safle’r maswr a chefnwr. Fel cefnwr y mae wedi chwarae rhan helaeth o’i rygbi gyda’r Dreigiau hyd yma. Yn fab i Ieuan Evans, cyn-gapten Cymru, mae ganddo gêm gicio arbennig a dealltwriaeth graff o rygbi.

James Botham – Gweilch

Nid yw Botham wedi chwarae dros Gymru ers Gorffennaf 2021 ac roedd 2022 yn flwyddyn anodd iddo oherwydd anafiadau. Yn holliach erbyn hyn, fe fyddai ei ddawn i chwarae ar draws y rheng ôl a’i natur gorfforol yn gaffaeliad i unrhyw garfan.

Ben Thomas – Caerdydd

Olwr arall sy’n amryddawn iawn ac wedi dangos ei fod yn gyfforddus fel maswr, canolwr a chefnwr. Fel canolwr y mae wedi chwarae gan amlaf i Gaerdydd y tymor hwn ac mae ganddo’r gallu i redeg onglau effeithiol iawn. Mae Joe Roberts o’r Scarlets yn ganolwr arall sy’n opsiwn i Gatland.

Alex Mann – Caerdydd

Yn un sydd wedi cael sylw yma ar Chwys yn barod, mae’r cyn pêl-droediwr wedi cael tymor arbennig hyd yma. Mae e ar frig tabl y taclwyr, a hynny yn ei dymor cyntaf gyda’r tîm rhanbarthol. Yn ogystal â bod yn daclwr cryf mae ganddo ddawn i osgoi taclwyr yn y chwarae ymosod hefyd.

James Fender – Gweilch

Clo arall sy’n cnocio ar y drws law yn llaw â Teddy Williams. Mae Fender wedi mwynhau tymor heb-ei-ail hyd yma ac wedi camu, yn llwyddiannus, i lenwi ‘sgidiau Alun Wyn Jones yn ail reng y Gweilch. Mae e eto yn gwlffyn o ddyn yn sefyll yn chwe throedfedd 7 modfedd ac yn 19 stôn.