Enwyd tîm Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn gynharach yr wythnos hon ar gyfer Pencampwriaethau Athletau Dan Do’r Byd yng Nglasgow (1-3 Mawrth) ac ymhlith yr athletwyr a fydd yn cynrychioli y mae dau Gymro.

Fe fydd Jeremiah Azu a Hannah Brier, sprintwyr cyflymaf Cymru, yn gobeithio sicrhau llwyddiant yn y bencampwriaeth sydd i ddechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae’r tîm wedi’i ddewis, yn ôl gwefan Athletau Prydain, i optimeiddio llwyddiant medalau a nifer yr wyth safle gorau.