Sicrhaodd tîm merched Cymru’r dechreuad perffaith i 2024 yn gynharach yn yr wythnos gyda buddugoliaeth o 2-0 dros Weriniaeth Iwerddon mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Tallaght.

Dyma’r gêm gyntaf i’r tîm ar ôl pencampwriaeth Cynghrair y Cenhedloedd digon anodd iddynt ac yn dilyn ymadawiad Gemma Grainger.

Roedd y tîm o dan arweiniad y prif hyfforddwr dros dro, Jon Grey, ac roedd ef wedi gwneud un newid i’r garfan a chwaraeodd y gêm ddiwethaf, yn erbyn yr Almaen ym mis Rhagfyr.

Daeth Hayley Ladd i mewn yn lle Charlie Estcourt gyda’r hyfforddwr yn penderfynu cadw at y patrwm o bum chwaraewr amddiffynnol, penderfyniad a brofodd yn llwyddiannus yn y gêm gyfartal ddi-sgôr honno.

Yr hynod brofiadol Jess Fishlock, y chwaraewr cyntaf erioed i ennill 100 cap i Gymru, agorodd y sgori ar ôl saith munud o chwarae gyda’r tîm cartref yn methu ymdopi â chic o’r cornel a Ladd yn darganfod Fishlock yn y blwch.

Daeth peniad Elise Hughes yn agos iawn at gyrraedd cefn y rhwyd ond gwyro’n llydan gwnaeth y bêl cyn i Liv Clark ddangos doniau anhygoel i arbed ymdrech Amber Barrett o flaen y gôl.

Dyblwyd sgôr Cymru ar ôl 22 munud gyda Lily Woodham yn llwyddo i guro’r bêl yn berffaith o bas Hughes.

Gyda Chymru yn gyfforddus ar y blaen ar yr egwyl, aeth Grey ati i wneud chwech newid yn yr ail hanner gan roi cyfle cyntaf yn y crys coch i Lois Joel. Bach iawn o fygythiad a ddaeth gan Weriniaeth Iwerddon trwy gydol y gêm ac fe lwyddodd y Cymry i gadw ati a sicrhau’r fuddugoliaeth.

Fe fydd y prif hyfforddwr newydd, Rhian Wilkinson, yn hapus gyda’r hyn a welwyd yn Nulyn ac fe fydd hi’n cymryd rheolaeth dros y garfan ym mis Ebrill.

Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth 5ed o Fawrth i weld pwy fydd Cymru yn wynebu yng ngemau cymhwyso Ewro 2025 UEFA.