O fis Medi 2026 ymlaen fe fydd yn bosib i ddisgyblion TGAU Addysg Gorfforol yng Nghymru ddewis chwaraeon amgen fel rasio BMX, sglefrfyrffio a saethu er mwyn cael cymhwyster yn y pwnc.

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster TGAU newydd mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd, a fydd ar gael i’w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.

Ers cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo, mae Cymwysterau Cymru wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid gan gynnwys ymarferwyr, cynghorwyr pwnc a chynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru a’r corff dyfarnu CBAC, i gyd-greu’r rhestr gymeradwy o chwaraeon a gweithgareddau corfforol y bydd dysgwyr yn dewis o’u plith wrth gwblhau’r asesiad di-arholiad (NEA) ar gyfer y cymhwyster hwn

Mae’r rhestr sydd wedi’i diweddaru wedi’i llunio i gynnwys amrywiaeth gafaelgar a chynhwysol o chwaraeon unigol a chwaraeon tîm priodol a gweithgareddau corfforol i ddysgwyr ddewis o’u plith.

Mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu ychwanegu’r chwaraeon a’r gweithgareddau corfforol canlynol at y rhestr gymeradwy:

  • Bowlio Lawnt
  • Cicfocsio
  • Futsal
  • Hoci Rholio
  • Pêl-law
  • Rasio BMX
  • Saethu
  • Saethyddiaeth
  • Sglefrfyrddio
  • Sglefrio Cyflym
  • Sglefrio Ffigyrau
  • Tonfyrddio
  • Twmblo

Mae campau fel Rasio BMX a sglefrfyrddio wedi eu hychwanegu i restr chwaraeon y Gemau Olympaidd yn y blynyddoedd diweddar ac maent yn gampau sy’n denu cryn dipyn o ddiddordeb yma yng Nghymru.

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cynnal Gemau Stryd yr Urdd dros y ddwy flynedd diwethaf, digwyddiad arbennig ym Mae Caerdydd sydd yn rhoi sylw i Rasio BMX, sglefrfyrddio, scwter, pêl-fasged 3×3 ac eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran Beicio Cymru: “Mae’n wych gweld rasio BMX yn cael ei ychwanegu at y rhestr TGAU wedi cymeradwyo ar gyfer Addysg Gorfforol ac Iechyd. Mae’r gamp yn tyfu yng Nghymru a gobeithiwn y bydd dysgwyr yn mwynhau rhoi cynnig ar y gamp wych.”

Dywedodd Sam Horler, pennaeth gweithredol Skateboard GB yng Nghymru: “Mae’n wych clywed y bydd sglefrfyrddio yn cael ei gynnwys fel camp y gall pobl ifanc ei ddefnyddio tuag at eu TGAU Addysg Gorfforol yng Nghymru. Mae llawer o sglefrfyrddwyr ar draws y wlad a fydd yn elwa’n fawr o’r diweddariad hwn ac mae’n gam cadarnhaol tuag at gydnabod sglefrfyrddio fel gweithgaredd sydd â gwerth enfawr i’r rhai sydd yn cymryd rhan, ac i’r gymdeithas ehangach.”

Mae Bowlio Lawnt wedi bod yn rhan o raglen Gemau’r Gymanwlad ers y cychwyn ym 1930, ac eithrio Gemau Kingston ym 1966, Mae’r gamp yn un o gampau mwyaf llwyddiannus Cymru yn y Gemau gyda chyfanswm o 28 o fedalau yn y maes.