Mis Mawrth ac unwaith eto roedd llygaid y byd chwaraeon ar Barc Prestbury wrth i Ŵyl Rasio Cheltenham ddychwelyd. Roedd y goreuon o rasio ceffylau Prydain, Iwerddon a thu hwnt i’w gweld dros y pedwar diwrnod yn Sir Gaerloyw.

Agorodd yr ŵyl Ddydd Mawrth gyda’r tywydd gwlyb dros yr wythnosau diwethaf yn dangos gyda’r tirwedd yn feddal.