Gofynwch i bobl ar y stryd enwi digwyddiad rhedeg Cymreig ac mae’n siŵr y byddai llawer yn enwi Hanner Marathon Caerdydd, Marathon Eryri neu Ras yr Wyddfa fel rasys enwocaf y wlad.
Ond petae chi’n gofyn i’r mwyafrif o redwyr clwb cystadleuol yng Nghymru, mae’n debygol y byddai canran fawr ohonyn nhw’n enwi Pencampwriaeth Traws Gwlad Cymru fel un uchafbwyntiau’r calendr rhedeg.
Yn sicr fe fydden i ymysg y rheiny, ac mae’n anodd iawn dadlau gyda’r ffaith mai dyma’r diwrnod o’r flwyddyn sy’n denu’r mwyaf o redwyr cystadleuol i un man gyda’i gilydd, ac mae hynny’n naturiol yn arwain at rasio cyffrous bob tro.
Mewn oes lle mae technoleg yn dod yn fwyfwy dylanwadol, a dadleuol, efallai mai rhedeg traws gwlad sy’n cynrychioli’r rasio mwyaf pur yn y gamp – fydd esgidiau platiau carbon yn dda i ddim i chi ar gaeau mwdlyd!
Penlan yn Aberhonddu oedd lleoliad Pencampwriaeth Traws Gwlad Cymru ar 17 Chwefror – yr 119fed tro i’r gystadleuaeth gael ei chynnal. Dyma leoliad cyfarwydd i’r rhan fwyaf o’r rhedwyr sydd wedi bod yn gartref i’r bencampwriaeth sawl gwaith.
Roedd rhaglen 11 ras i gyd yn ymestyn o rasys plant blynyddoedd 3 a 4 oedd yn cael eu trefnu mewn cydweithrediad a’r Urdd, i’r rasys i athletwyr meistri dros 65 oed. Wedi’r tywydd gwlyb diweddar, roedd yr amgylchiadau’n heriol dan droed gyda’r cwrs wrth gwrs yn mynd yn fwyfwy mwdlyd gyda phob ras….ond mae hynny oll yn ran o’r hwyl.
Agor gyda rasys yr Urdd
Gyda dros 1000 o redwyr wedi’u cofrestru, ar gyfer y diwrnod, rasys y plant cynradd oedd yn agor y dydd.
Arthur Lummis o Aberdâr (5:39) oedd yn gyntaf yn y ras i fechgyn blynyddoedd 3 a 4 dros 1500m gydag Ysgol Nantgaredig yn ennill y fedal aur i’r tîm. Ivy Vaughan (6:02) o Ysgol Gynradd Cantref oedd y ferch gyntaf yn yr un ras gydag Ysgol Santes Fair dod i’r brig ymysg y timoedd, gan hefyd gipio medal arian i’w hail dîm.
Y ras i ysgolion cynradd blynyddoedd 5 a 6 oedd nesaf, a Rowan Carson o Ysgol Garth Olwg groesodd y llinell gyntaf ymysg y bechyn mewn 5 munud 39 eiliad. Ysgol Gynradd Oldcastle enillodd y fedal aur i dimau bechgyn.
Aeth medal aur unigol y merched i’r gogledd, ac i Emily Evans-Williams (6:20) o Ysgol Penygroes. Ysgol Santes Tudful ddaeth i’r brig unwaith eto ymysg timau’r merched, ac roedd medal efydd i’w hail dîm hefyd wrth i Harriers Abertawe gipio’r arian.
Tro’r bechgyn dan 13 oedd oedd hi nesaf a hwythau’n rhedeg pellter o 3250m. Macsen Watts o Athletau Blaenau Gwent groesodd y llinedd gyntaf mewn 10:31 gydag Osian Phillips (10:42) a Hedd Griffiths (10:50) ill dau o Glwb Athletau Caerdydd yn ail a thrydydd.
Yn ras y merched dan 13 dros yr un pellter, Martha Bown o Glwb Menai oedd yr enillydd clir mewn amser o 11:36 gan gwlhau’r ‘ddwbl’ ar ôl iddi ennill y ras gyfatebol yn y bencampwriaeth rhyng-ranbarthol yn y Drenewydd fis Tachwedd. Manon Fflur Phillis (12:00) o Glwb Rhedeg a Chyfeiriannu Taf oedd yn ail , a Katie Doherty (12:03) o Glwb Athletau Deeside yn drydydd.
Tro’r oedolion a’r meistri
Mae dwy brif gynghrair traws gwlad yng Nghymru sef Cynghrair Gwent yn y De, a Chynghrair y Gogledd. Fel arfer mae rhyw 5 ras yn y gynghrair dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf. Ar ddyddiau rasio y cynghreiriau, rasys yr oedolion sy’n tueddu i gloi’r dydd, ond yn aml iawn mae’n nhw tua canol y rhaglen ym Mhencampwriaethau Cymru a felly oedd hi eleni.
Y menywod oedd yn rasio gyntaf dros bellter 6.85km, ac roedd yn addo bod yn ras gyffrous rhwng Alaw Evans o Glwb Les Croupier, sef pencampwr y ras ryng-ranbarthol ac enillydd Marathon Eryri llynedd, a Caryl Edwards (Harriers Abertawe) sydd wedi cynrychioli Cymru yn Marathon Gemau’r Gymanwlad, ac oedd yn ail ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Cymru ddwy flynedd yn ôl.
Ac roedd hi wir yn ras gyffrous gyda’r ddwy, ynghyd â Martha Owen o Glwb Athletau Deeside yn cyfnewid y safle ar y blaen. Hanner ffordd trwy’r ras roedd hi’n ymddangos bod Alaw Evans yn tynnu’n glir, ond fe lwyddodd Edwards i’w dal a phasio hanner ffordd trwy gylch olaf y ras. Wrth i’r llinell derfyn nesau roedd hi’n dynn eithriadol, ond llwyddodd Caryl Edwards (23:28) i ffeindio’r egni i gipio’r teitl o gwta ddwy eiliad. Alaw Evans (23:30) yn ail felly a Martha Owen (23:43) yn drydydd.
Roedd y dynion dros 65 oed yn rhedeg yn yr un ras gydag Alan Davies o Glwb Athletau Llanelli’n dod i frig y categori M65, Peter Turner o Cornell Striders yn cipio’r teitl M70, ac Emyr Davies o Redwyr Hebog yn cipio’r medal aur yn y categori M75.
Ras y dynion dros 10,260m oedd hi nesaf – ras oedd yn cynnwys pencampwr Gogledd Cymru, Matthew Willis; pencampwr Cymru 2022 a 2020, James Hunt; ynghyd â Tom Wood a enillodd bencampwriaeth rhyng-ranbarthol fis Tachwedd, ac oedd hefyd yn ail ym Mhencampwriaeth Cymru llynedd.
Yn y diwedd roedd hi’n ras agos iawn rhwng Willis, Wood a Ciaran Lewis o Glwb Les Croupier – Willis o Glwb Athletau Wrecsam yn cipio’r fuddugoliaeth mewn 29:48, gyda Tom Wood o Eryri Harriers yn ail (29:57) ac yna Lewis yn drydydd mewn 30:09.
Rasio cyffrous ymysg y rhedwyr iau
Cyfle’r rhedwyr ieuenctid oedd hi eto wedyn, gyda’r bechgyn dan 15 oed i ddechrau. Ac roedd hi’n ras hynod o agos rhwng y tri blaen, gydag Osian Parry o glwb Menai yn cipio’r fedal aur ar y llinell mewn 13:43 (dros 4.31km) ar ôl sprint yn erbyn Finlay Burns o Glwb Athletau Caerdydd a orffennodd eiliad yn ôl. Roedd Lewis Davies o Deeside yn drydydd ddim ond bedair ailiad tu ôl iddo ymtau mewn 13:48.
Roedd hi’n gystadleuol ymysg y merched dan 15 hefyd gyda Libby Hale o Harriers Abertawe’n gyntaf (14:48), ei chyd aelod clwb, Holly Humphreys yn ail mewn 14:54 ac yna Bryony Boyce o Glwb Athletau Caerdydd yn drydydd (15:01).
5.18km oedd y pellter i’r rhedwyr dan 17 oed ac roedd hi’n bodiwm llawn i fechgyn Harriers Caerfyrddin gydag Iwan Thomas yn gyntaf (15:15), Finley Bruce yn ail; (16:02) ac Ifan Bowen yn drydydd (16:17).
Millie Gold (17:54) o Harriers Abertawe enillodd yr aur ymysg y merched dan 17, yn gyfforddus ar y blaen i Abigail Doherty o Deeside (18:21) yn ail ac Eve Bailey o Winchester and District AC yn drydydd (18:44). Roedd y merched dan 20 oed yn yr un ras a Beth Rawlinson o Wolverhampton & Bilston (18:06) oedd yn fuddugol, gyda Caitlin Jones o Aberdâr yn ail a Ceri Griffiths o Harriers Casnewydd yn drydydd.
Ras olaf y dydd oedd honno i’r bechgyn dan 20 oed dros 6.85km. Mae hwn yn gategori oedran aruthrol o gryf ar hyn o bryd, ond doedd hi ddim yn syndod gweld un o athletwyr mwyaf addasol i wlad, Dafydd Jones o Harriers Abertawe, yn cipio’r fedal aur mewn 20:25. Oliver James o Bournemouth AC oedd yn ail (20:44) a Henry Evans o Harriers Casnewydd yn drydydd (21.16).
A dyna ni’n cyrraedd diwedd diwrnod hynod gyffrous o rasio yn Aberhonddu, a diwedd y tymor traws gwlad i nifer o redwyr mae’n siŵr. Mae ambell ras gynghrair yn weddill, ynghyd â ras Rhyng-Sirol Prydain (Inter-Counties) i’r rhedwyr hynny sydd wedi eu dewis i redeg dros eu rhanbarth, ond bydd llawer o’r athletwyr nawr yn troi eu golygon at y trac neu’r lôn wrth i dymor marathons y gwanwyn agosau.
Gyda’r gaeaf gwlyb a welwyd eleni, mae’n sicr bod y mwd ar y cyrsiau traws gwlad wedi cryfhau coesau’r rhedwyr, ac wedi bod yn hyfforddi delfrydol ar gyfer eu cynlluniau dros y misoedd nesaf. I unrhyw redwr, boed chi’n mwnhau’r lôn, y trêl neu’r mynydd, byddwn yn eich hannog yn gryf i roi tro ar y traws gwlad pan ddaw’r hydref – does dim rasio gwell, ac fe brofodd Pencampwriaethau Cymru’n binacl i’r tymor unwaith eto eleni.
Canlyniadau llawn Pencampwriaethau Traws Gwlad Cymru
Lluniau trwy ganiatâd Owen Morgan