Dyma’r cyntaf yn ein cyfres yn Cyfarfod y Cyfranwyr. Cyfle i chi gael gwybod pwy yw’r lleisiau tu ôl i’r erthyglau ar Chwys yn wythnosol.
Os wyt ti’n deall pob peth am dy hoff gamp, ac awydd ysgrifennu am dy hoff dîm neu glwb, mae gyda ni’r cyfle perffaith ar dy gyfer di!
Beth bynnag yw dy arbenigedd, cysyllta â ni trwy e-bostio chwys@golwg.cymru
Cai Dwyryd Huws
Rwy’n 23 oed ac yn byw ym Mhorthmadog. Ers i mi fedru cofio mae chwaraeon, ac yn arbennig pêl-droed, wedi bod yn ddiddordeb mawr gen i erioed. O oedran ifanc rwyf wedi bod wrth fy modd yn chwarae ac yn gwylio’r gêm.
Ar ôl astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth yn y Brifysgol ym Mangor roedd gweithio o fewn y cyfryngau yng Nghymru wastad wedi bod yn llwybr yr oeddwn wedi bwriadu ei ddilyn am wn i.
Roedd cael gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig i mi hefyd, ac mae cael cyfle i gyfrannu i gylchgrawn chwaraeon Chwys wedi bod yn fwynhad llwyr dros y misoedd diwethaf.
Mae pêl-droed y cynghreiriau yng Nghymru, a’r tîm cenedlaethol, yn sicr yn mynd a’m mryd.
Credaf y dylai Cymry Cymraeg fedru cael y cyfle i ddarllen yr hyn sydd ynghlwm â’u gwlad eu hunain, yn eu hiaith eu hunain, ac mae cael cyfrannu ychydig at hyn yn rhywbeth rwy’n falch iawn o’i wneud.