Mae Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr tîm dan 20 Cymru, wedi enwi carfan o 37 chwaraewr ar gyfer ymgyrch Chwe Gwlad 2024.

Yn gyfrifol am arwain y dynion ifanc y bydd y canolwr 19 mlwydd oed, Harri Ackerman, sy’n aelod o garfan y Dreigiau.

Mae’r garfan yn cynnwys 11 chwaraewr sydd wedi cynrychioli Cymru ar yma o’r blaen. Er i Huw Anderson deithio gyda’r garfan i Gwpan y Byd dan 20 y llynedd – ni chafodd unrhyw amser ar y cae yn Ne Affrica ac felly mae eto i ennill ei gap cyntaf.