Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham wedi enwi ei dîm i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 ar faes Ashton Gate ym Mryste ddydd Sadwrn y 30ain o Fawrth. (4:45pm)

Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain unwaith eto – ond mae Cunningham wedi gwneud chwe newid i’r tîm gollodd yn erbyn Yr Alban yn y gêm agoriadol ym Mharc yr Arfau y penwythnos diwethaf – a hynny o flaen torf o 6,676.