Gyda chwe mis yn unig i fynd tan Gemau Olympaidd Paris 2024 mae Cymdeithas Olympaidd Prydain wedi cyhoeddi chwe phlentyn sydd wedi’u dewis i fod yn Fasgots Iau cyntaf erioed Tîm Prydain Fawr.

Mae’r tîm o chwech yn cynrychioli gwledydd y Deyrnas Unedig, gyda’r Cymro ifanc o Borth Tywyn, Santino Perrin, yn cynrychioli Cymru.

Yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli, mae Santino wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed i dîm Evans a Williams yn Llanelli, a nofio i Glwb Nofio Llanelli.

Cafodd Santino ei enwebu gan ei fam Alana Perrin; ”Enwebais Santino ar ôl gweld post ar Facebook yn cyhoeddi bod Team GB yn chwilio am eu tîm cyntaf o fasgots bach.

“Mae Santino yn hoff iawn o chwaraeon ac roeddwn i’n gwybod y byddai’n mwynhau bod yn rhan o Gemau Olympaidd 2024 mewn rhyw ffordd, ond doedd gen i ddim syniad y byddai cymaint o rai eraill yn cael eu henwebu – roedd 20,000 o geisiadau!

“Ar ôl y broses enwebu, gofynnwyd i’r plant ar y rhestr fer roi fideo at ei gilydd yn egluro pam yr hoffent gael eu dewis. Fe wnaethon ni fideo dwyieithog i gynrychioli Cymru, a siaradodd Santino am ei hoffter o bêl-droed, nofio a rhedeg.

“Yna cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu dewis gan Gomisiwn Athletwyr Gemau Olympaidd Prydain, ac roedd yn sioc  pan ddaeth yr e-bost yn dweud ei fod wedi cael ei ddewis.”

Y tîm 

Dyma’r plant fydd yn cynrychioli Tîm Prydain Fawr wrth baratoi at Gemau Olympaidd Paris 2024.

  • Josh Davidson, 9 oed o Glasgow
  • Dora McHardy, 8 oed o Surrey
  • Alice Wu, 8 oed o Leeds
  • Amelia Cropera, 11 oed o Belfast
  • Elliott Lefley, 11 oed o Ddyfnaint
  • Santino Perrin, 9 oed o Borth Tywyn

Bydd y Masgotiaid Bach yn cefnogi athletwyr Tîm Prydain Fawr yr holl ffordd i Baris, o’r diwrnod cit – lle bydd athletwyr yn mynd i Birmingham i gasglu eu cit Olympaidd – i gyhoeddiadau tîm lleol a chymryd rhan ym Mhentrefi Cefnogwyr Tîm Prydain Fawr i wylio’r cyffro a chefnogi Tîm Prydain Fawr.

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf

Aeth Alana ymlaen i ddweud; “Hyd yn hyn, rydym wedi cyfarfod â’r masgotiaid bach eraill a chymerodd Santino ran mewn sesiwn tynnu lluniau proffesiynol i gyhoeddi’r grŵp. Cafodd y plant i gyd eu cyfweld ar gamera, ac roedden ni’n falch iawn o Santino am wneud rhywbeth hollol newydd ac allan o’i barth cysur.

“Cawsant hefyd gyfarfod â Mallory Franklin, enillydd medal arian Olympaidd yn y slalom canŵ, a ddaeth â’i medal gyda hi. Roedden nhw i gyd wedi rhyfeddu pa mor drwm ydoedd, ac rwy’n meddwl ei fod wedi’u hysbrydoli i ddal ati gyda’u gwahanol chwaraeon.

“Mae Santino yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â rhai o’r athletwyr – yn enwedig unrhyw aelod Cymreig o’r tîm. Bydd yn gwneud gwylio’r gemau hyd yn oed yn fwy cyffrous ar ôl cyfarfod â rhai o’r cystadleuwyr.”

Mae gan Santino frawd a chwaer iau, Ezra sy’n 7 ac Ophelia sy’n ddwy, ac maen nhw, ynghyd â’i fam Alana a’i dad Stewart yn falch iawn ohono.

“Rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn i fod yn rhan o Dîm Prydain Fawr. Mae Santino a’i frawd Ezra ill dau’n hoff iawn o chwaraeon – maen nhw’n cymryd rhan yn Junior Parkrun, yn chwarae pêl-droed ac yn nofio ddwywaith yr wythnos, a hyd yn oed wedi cymryd rhan yn ras iau Hanner Marathon Caerdydd fis Hydref diwethaf. Bydd gweld ochr o’r Gemau Olympaidd nad yw’r rhan fwyaf o bobl eraill yn ei phrofi yn ysbrydoliaeth aruthrol iddynt.” meddai Alana.

Dymunwn pob hwyl i Santino ar ei daith fel Masgot Bach Tîm Prydain Fawr!