Buddugoliaeth o 4-1 oedd hi i Gymru yn erbyn Y Ffindir gyda gêm yn erbyn Gwlad Pwyl nos Fawrth i ddod i benderfynu pwy fydd yn cyrraedd Ewro 2024 yn Yr Almaen ym mis Mehefin.

Goliau cynnar ar ddechrau’r naill hanner a’r llall gan David Brooks a Brennan Johnson yn ogystal â chic rydd wych gan Neco Williams a phedwaredd gôl arbennig gan Dan James enillodd y gêm i Gymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau.