Fe fydd Cymru yn wynebu Iwerddon yn Nulyn dros y penwythnos yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2024.
Wrth i ni gyrraedd hanner ffordd yn y gystadleuaeth, mae Cymru yn y pumed safle ar ôl colli i’r Alban a Lloegr.
Un o’r prif bwyntiau trafod cyn y gêm fawr yn Nulyn ddydd Sadwrn yw nid strategaeth Warren Gatland, pwy sy’n chwarae yn safle’r mewnwr ond y ffaith mai dyma fydd y tro olaf i Gymru ac Iwerddon wynebu ei gilydd yn y bencampwriaeth yn eu coch a gwyrdd traddodiadol.
Mae’n debyg bod tua un ym mhob deuddeg dyn yn dioddef o ddiffyg golwg lliw gyda gwyrdd a choch yn achosi’r problemau mwyaf difrifol. Mae’r nifer o fenywod sy’n cael trafferth gyda golwg lliw llawer yn is gyda’r ffigyrau oddeutu un ym mhob 200.
Ym mis Medi 2021, nododd World Rugby effeithiau niweidiol gwrthdaro lliw mewn cit ac offer arall, gan gynnwys ar berfformiad, lles a diogelwch chwaraewyr, yn ogystal â mwynhad gwylwyr. Oherwydd hyn bu’n rhaid i sawl tîm newid eu crysau traddodiadol yn ystod Cwpan y Byd 2023.
Bu’n rhaid i Gymru a Phortiwgal newid i’w lliwiau ‘oddi cartref’ ar gyfer eu gêm yng Nghwpan y Byd y llynedd, darllenwch y stori yma, oherwydd problemau cefnogwyr gyda diffyg golwg lliw.
Beirniadu Undeb Rygbi Cymru
Mae ymgyrchwyr dallineb lliw wedi beirniadu Undeb Rygbi Cymru am fynd yn groes i’r canllawiau yma gan wrthod a newid y cit coch ar gyfer y gêm yn Nulyn penwythnos yma.
Fe fydd timau oddi cartref yn gorfod newid eu cit o Bencampwriaeth Chwe Gwlad 2025 ymlaen, ac mae Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, wedi croesawu’r newid yn “llwyr” o flwyddyn nesaf ymlaen gan egluro:
“Mae gwrthdaro yn lliwiau’r cit yn newid y ffordd rydych chi’n gwylio gêm ac mae gen i gydymdeimlad â’r rheini sy’n cael eu effeithio gan hyn.
“Mae hwn wrth gwrs yn fater emosiynol ac mae coch yn liw mor draddodiadol i Gymru, yn union fel y mae gwyrdd i Iwerddon. Mae cit lliw gwahanol yn gallu bod yn ddadleuol iawn.
“Du yw lliw ein cit arall ni ar ôl o bryd, ac rydyn ni wedi defnyddio gwyrdd yn y gorffennol. Nid yw un o’r lliwiau yma yn ddefnyddiol iawn gyda’r achos yma, ac mae coch yn draddodiad i ni yng Nghymru ond hefyd yn rhan o’n diwylliant.
Coch i Gymru
“Mae traddodiad a hunaniaeth yn bwysig iawn yn rygbi Cymru ac rydyn ni’n awyddus iawn i adlewyrchu’r hyn y mae’r cefnogwyr eisiau, ond mae’n bwysig hefyd ein bod ni’n hygyrch ac yn groesawgar i bawb.”
Er hyn oll, coch fydd lliw crysau Cymru ddydd Sadwrn. Aeth Tierney ymlaen i egluro’r penderfyniad;
“Mae’n druenus nad ydym wedi llwyddo dod i benderfyniad sy’n addas ar gyfer pawb y tymor hwn, ond gallaf gadarnhau ein bod wedi ymrwymo’n llwyr i gywiro hynny yn y cylch cit nesaf.”
Ydych chi’n cytuno bod angen newid? Ydych chi’n dioddef o ddiffyg golwg lliw? Rhannwch eich barn gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Facebook – Chwys
Instagram a ‘X’ – @chwyslyd