- Rhyddhad i Aberystwyth wrth iddynt gadw eu lle yn y gynghrair ar benwythnos ola’r tymor, wedi buddugoliaeth yn erbyn Pontypridd
- Er ennill yn erbyn Y Barri disgynnodd Bae Colwyn o’r gynghrair gyda Steve Evans yn cael ei ddiswyddo wedi’r gêm
- Penybont yn ennill y gêm hollbwysig yn erbyn Hwlffordd ar gyfer cyrraedd y gemau ail gyfle diolch i foli wych gan Chris Venables
- Ynghyd â’r Barri yn 97/98, Y Seintiau Newydd yn cwblhau tymor o 32 gêm heb golli gan hefyd ennill 30 ohonynt
- Y Drenewydd a Met Caerdydd yn paratoi tuag y gemau ail gyfle ymhen pythefnos
- Gêm gyfartal rhwng Caernarfon a’r Bala gyda’r Cofis nawr yn anelu i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf erioed trwy’r gemau ail gyfle
Aberystwyth 3-0 Pontypridd
Roedd gan Aberystwyth le i ddiolch nad oedd hon o bosib yn mynd i fod cyn anodded ag y byddai wedi bod pe bai Pontypridd yn dal i frwydro i aros i fyny hefyd.
Yn gynharach cyn y gêm cyhoeddwyd nad oedd Pontypridd wedi cael trwydded ar gyfer y tymor nesaf ac felly’n disgyn o’r gynghrair doed a ddel.
Gyda thynged Pontypridd eisoes wedi’i bennu, heb anghofio eu bod wedi mynd pum gêm heb ennill a phedair heb sgorio, rhoddwyd y cyfle perffaith i Aberystwyth dawelu ofnau eu cefnogwyr am dymor arall.
Wedi 37 munud cododd yr amddiffynnwr Louis Bradford yn uwch na neb yn y cwrt gan benio’n wych i roi ei dîm ar y blaen o gic gornel. Hon oedd ei gôl gyntaf y tymor hwn.
Fe allai’r gêm a’r sefyllfa o ran y tabl fod wedi newid yn llwyr pe bai Pontypridd wedi derbyn cic o’r smotyn wedi i Kieran Lewis gael ei faglu yn y cwrt gan Billy Kirkman yn yr ail hanner. Fe fethodd y dyfarnwr hyn, a rhoddwyd cic rydd yn unig iddynt.
Gyda Bae Colwyn yn ennill eu gêm hwythau, fe fyddai unrhyw beth ar wahân i fuddugoliaeth i Aberystwyth wedi’u hanfon i lawr.
Sgoriodd Steff Davies i Aberystwyth wedi hynny (54) gan setlo’r sefyllfa ymhellach. O gig gornel daeth hon hefyd gyda Davies, yng nghanol y dryswch yn y cwrt, yn llwyddo i’w chyfeirio dros y llinell.
Fe ddaliodd Aberystwyth eu gafael ar eu mantais a fyddai’n eu cadw yn y gynghrair ta waeth beth fyddai canlyniad Bae Colwyn, ac ar ôl 89 munud ychwanegwyd gôl arall i’w casgliad gyda phêl dda Alex Darlington yn annog Jonathan Evans i daro hanner foli ragorol i gornel isa’r rhwyd.
Mae eu record o chwarae ymhob tymor yn hanes Uwch Gynghrair Cymru ers 1992, ynghyd â’r Drenewydd, yr unig un arall i wneud hyn, yn ddiogel am dymor arall felly.
Bae Colwyn 1-0 Y Barri
Er i Fae Colwyn lwyddo i wneud eu gwaith ar ddiwrnod ola’r tymor, oherwydd eu hanallu i berfformio’n ddigon da fe arall, fe fethon ag aros i fyny gyda Steve Evans yn colli ei swydd fel rheolwr yn hwyrach wedi’r gêm.
Pe byddai Aberystwyth wedi methu ag ennill eu gêm hwythau, yna fe fyddai Evans a’i dîm wedi cadw eu lle yn y gynghrair.
Gan iddynt ennill dwy yn unig o’u naw gêm ddiwethaf, roedd rhaid dibynnu ar ganlyniad gêm arall. Mewn un ystyr, roedd hi allan o’u dwylo felly. Talwyd yn ddrud am dymor, a oedd yn ei gyfanrwydd, yn un gwael iawn.
Pwysodd Bae Colwyn yn ddi-baid a’u capten Tom McCready gafodd un o’r cyfleoedd, ond fe arbedwyd ei ergyd bwerus yn dda gan y golwr Luc Rees.
Yn dilyn y gêm cyhoeddodd McCready ei ymddeoliad fel pêl-droediwr a hynny ar ôl treulio cyfnodau hefyd gydag Airbus yng Nghymru ac Altrincham, Morecambe, Fylde a Chaerwysg yn Lloegr.
Saith munud cyn y 90 fe aethant ar y blaen gyda’r amddiffynnwr cydnerth, Alex Downes, yn penio i gefn y rhwyd ac yn sgorio’i bedwaredd o’r tymor.
Er y fuddugoliaeth, disgynodd Bae Colwyn o’r gynghrair wrth i Aberystwyth aros i fyny ar eu traul.
Wedi’r gêm mynegodd eu rheolwr, Steve Evans, ei fod yn barod i afael ynddi eto’r tymor nesaf: “Hyd y gwn i, mi dwi yma i aros, mae gen i dasg, dwi eisiau mynd â ni i Ewrop…Hyd y gwn i a hyd y gwyddai’r clwb, mi fyddai yma flwyddyn nesaf.”
Mewn datganiad yn hwyrach nos Sul dywedodd y clwb fod y penderfyniad wedi’i wneud i ddod a chyfnod Evans fel rheolwr i ben.
Penybont 1-0 Hwlffordd
Roedd rhaid i Benybont ennill er mwyn gorffen uwchben Hwlffordd a chyrraedd y seithfed safle. Llwyddwyd i wneud hynny ac fe orffennodd Rhys Griffiths a’i dîm yn uwch na Hwlffordd ar wahaniaeth goliau.
Y Drenewydd, a orffenodd yn bedwerydd, fydd gwrthwynebwyr Penybont yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle a hynny oddi cartref ar yr 11eg o Fai.
Mewn gêm bwysig a fyddai’n pennu’r sawl fyddai’n cyrraedd y gemau ail gyfle Ewropeaidd osgoi colled oedd angen i Hwlffordd ei wneud.
Ond ar ôl chwe munud yn unig fe aeth pethau o’i le iddynt. Rhoddodd Chris Venables Penybont ar y blaen gyda foli ragorol o groesiad Kane Owen. Dyma’i ddeunawfed gôl y tymor hwn, a’i bumed mewn tair gêm.
Gyda Hwlffordd yn gorffen yn seithfed y tymor diwethaf ac yn cyrraedd Ewrop gan ennill y gemau ail gyfle, tybed ai tro Penybont fydd hi eleni i ailadrodd y gamp honno?
O’r pedwar a fydd yn cystadlu yn y gemau ail gyfle, Penybont sydd yn chwarae orau ar hyn o bryd. Er mai timau’r rhan isaf a wynebasant, mae mynd chwe gêm heb golli gan ennill pump, heb ildio’r un gôl, yn arwydd da o’r hyn sydd i ddod eto ganddynt o bosib.
Y Seintiau Newydd 2-0 Cei Connah
Gall Y Seintiau Newydd ychwanegu eu henw yn y llyfrau hanes ymhellach erbyn hyn a hynny wrth fod yr ail dîm yn unig yn hanes Uwch Gynghrair Cymru, ar ôl Y Barri yn 1997/98, i fynd drwy dymor cyfan heb golli.
Mewn cyfanswm o 32 gêm, enillasant 30, gan rannu’r pwyntiau yn y ddwy arall.
Ar benwythnos ola’r tymor, yr ail agosaf iddynt yn y gynghrair oeddent yn eu hwynebu. Fe’u trechodd hwy gyda dwy gôl hwyr ac ymestyn y bwlch rhyngddynt yn y tabl i 33 pwynt.
Credodd Brad Young iddo sgorio ar ôl 37 munud ond diddymwyd y gôl yn sgil llawio honedig ganddo. Wrth lwc, ni effeithiodd hyn ar ei sefyllfa fel prif sgoriwr y gynghrair, wrth iddo orffen y tymor ar y brig gyda 22 o goliau. Camp a hanner yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb.
Wrth i’r gêm dynnu at ei therfyn fe gafodd Y Seintiau Newydd eu gôl gydag Adrian Cieslewicz yn ymlwybro ei ffordd tua’r gôl cyn chwipio ergyd i ran ucha’r rhwyd.
Rhoddwyd diwedd pendant ar bethau yn amser ychwanegol wedyn gyda chroesiad Danny Redmond yn gwyro oddi ar ben Kai Edwards i mewn i’r gôl.
Gwyddwn erstalwm fod Y Seintiau Newydd eisoes wedi hen sicrhau eu gafael ar y gynghrair am dymor arall. Mae’n debyg mai’r gêm fawr y penwythnos nesaf rhwng y ddau yn rownd derfynol Cwpan Cymru oedd yr ornest bwysicaf mewn golwg.
Chwaraeir y rownd derfynol rhwng Y Seintiau Newydd a Chei Connah ar ddydd Sul, yr 28ain o Ebrill yn Rodney Parade, Casnewydd.
Met Caerdydd 1-3 Y Drenewydd
Wrth ennill ym Met Caerdydd am y tro cyntaf ers 1999 cadwodd Y Drenewydd eu lle yn y pedwerydd safle. Cânt chwarae eu dwy gêm ail gyfle bosibl ar eu cae eu hunain nawr.
A hwythau ond wedi colli un o’u chwe gêm ddiwethaf maent, yn ogystal â Phenybont a wynebant yn y rownd gynderfynol, yn cyrraedd y gemau ail gyfle yn hyderus.
Bu Drenewydd yn agos i ennill y gemau y tymor diwethaf gyda Hwlffordd yn eu trechu yn y rownd derfynol ar giciau o’r smotyn. Osgoi sefyllfa debyg fydd ganddynt mewn golwg eleni, gan geisio ennill y gemau am y trydydd tro.
Dominic Smith roddwyd hwy ar y blaen yn y brif ddinas, hynny wedi 15 munud yn dilyn blerwch yn y cwrt.
Wedi 21 munud rhoddodd eu prif sgoriwr Aaron Williams hwy ymhellach ar y blaen gydag yntau’n rhydd yn y cwrt i fedru taro’i foli.
I sgorio’i gyntaf o’r tymor a thrydedd ei dîm o’r prynhawn tynnodd Callum Roberts y bêl i lawr wrth ei draed cyn canfod cornel y rhwyd (52).
Fe darodd Met Caerdydd un yn ôl ugain munud cyn y chwiban olaf a hynny drwy Sam Jones.
Ar ôl gorffen yn chweched yn y tabl fe fydd Met Caerdydd hefyd yn chwarae yn y gemau ail gyfle gyda thaith i Gaernarfon ar gyfer y rownd gynderfynol o’u blaen ymhen pythefnos.
Ar ben y ffaith eu bod ar rediad gwael gydag wyth o gemau allan o naw wedi’u colli, yn yr wythnosau diwethaf bu syndod mawr pan gafwyd datganiadau gan ddau o’u chwaraewyr pennaf dros y ddegawd ddiwethaf yn cyhoeddi eu hymadawiad.
Mewn amgylchiadau annisgwyl ar y naw dywedodd Emlyn Lewis a Charlie Corsby eu bod wedi’u gorfodi i adael gan y clwb. Ni chafwyd eglurhad pellach na hynny.
Caernarfon 2-2 Y Bala
Cafwyd y bedwaredd gêm gyfartal yn olynol rhwng y ddau dîm gyda Chaernarfon yn troi eu golygon nawr at y gêm ail gyfle adref yn erbyn Met Caerdydd.
Diolch i waith da Danny Gosset rhoddwyd y bêl ar blât i Zack Clarke fedru rhwydo’r gyntaf a’i 11fed yn ei dymor cyntaf â’r clwb (34).
O fewn dim daethpwyd â’r sgôr yn gyfartal wrth i fywiogrwydd Naim Arsan yn y cwrt arwain at gôl i’r ymwelwyr (41).
Yn fuan ar ddechrau’r ail hanner gwelodd golwr Y Bala, Kelland Absalom, gerdyn coch, yn dilyn ei ail felyn, am redeg yn wyllt allan o’i gwrt ac i erbyn Zack Clarke. A hwythau heb eilydd i gymryd ei le gwelwyd yr amddiffynnwr, Nathan Peate, yn rhoi’r menig am ei ddwylo, a hefyd yn arbed y gic rydd.
Heb falio llawer am eu diffyg chwaraewr fe ddaliodd Y Bala ati gan fynd ar y blaen gyda gôl gan yr ymosodwr, Joe Malkin (54).
Ar ôl 69 munud daeth Caernarfon yn gyfartal a doedd dim gobaith i Nathan Peate yn y gôl y tro hwn wrth i draed cyflym Louis Lloyd greu’r lle iddo ergydio’r bêl yn nerthol i gefn y rhwyd.
Yn dilyn y gêm cyhoeddwyd y byddai capten Y Bala, Kieran Smith, yn gadael y clwb ar ôl 11 mlynedd.
Chwaraeodd bron i 300 o gemau yn y cyfnod hwnnw (y nifer mwyaf yn hanes y clwb) ac enillodd eu Cwpan Cymru cyntaf yn nhymor 2016/17, diolch i’w beniad buddugol yn erbyn Y Seintiau Newydd. Bu’n rhan o’r tîm a gipiodd Gwpan y Gynghrair am y tro cyntaf iddynt flwyddyn ddiwethaf hefyd.
Gemau i ddod:
(Gemau ail gyfle Ewropeaidd cynderfynol, i’w chwarae ar benwythnos y 10fed-12fed o Fai)
- Y Drenewydd v Penybont
- Caernarfon v Met Caerdydd