• Sicrhaodd Caernarfon eu lle yn y chwech uchaf am weddill y tymor a’u lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer Ewrop gyda gêm gyfartal yn erbyn Met Caerdydd
  • Pen-y-bont yn colli yn erbyn Cei Connah a’u rheolwr, Rhys Griffiths, yn dweud ei ddweud wrth ymateb i benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i dynnu pwyntiau oddi arnynt: “Mae’n hen bryd iddynt ddangos ychydig o gryfder a defnyddio synnwyr a rhoi cymorth i glybiau Cymreig fynd ymlaen a pharhau yn fyw, oherwydd mae nhw’n ein lladd.”
  • Hwlffordd yn boddi wrth ymyl y lan ac yn methu â phasio Caernarfon a gorffen yn y chweched safle ar ôl i eilyddion Y Bala sgorio tair gôl hwyr
  • Pontypridd yn dangos eu bod yn barod i frwydro hyd y diwedd er mwyn aros yn y gynghrair wedi buddugoliaeth ym Mae Colwyn
  • Y Barri yn curo Aberystwyth ac yn sgorio pedair am yr ail gêm yn olynol
  • Y Seintiau Newydd yn gorffen rhan gyntaf y tymor heb golli’r un gêm ar ôl curo’r Drenewydd

 

(Nos Sadwrn)

Met Caerdydd 2-2 Caernarfon

Wrth i Hwlffordd a Phen-y-bont golli eu gemau hwythau roedd pwynt yn hen ddigon i Gaernarfon sicrhau eu lle yn y chweched safle a’u safle yn rhan uchaf y gynghrair dan ddiwedd y tymor.

Fe fethodd Caernarfon â gorffen yn y chwech uchaf y tymor diwethaf a hynny am y tro cyntaf ers pedair blynedd.

Yn ei dymor llawn cyntaf fel rheolwr mae Richard Davies wedi sicrhau y bydd Caernarfon yn chwarae yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd ar ddiwedd y tymor.

Pan ofynwyd iddo ar ddiwedd y gêm beth mae hyn yn ei olygu iddo ef a’r clwb dywedodd, “Lot, dwi meddwl odd lot o bobl di writio ni off dechra season a wedyn maeo jest yn ffantastig i ni fel clwb, dyna lle odda ni isio bod, dyna odd y gôl dechra season.”

Wedi’r ergyd o golli eu hymosodwr ifanc, Zack Clarke, a gafodd ei alw’n ôl gan Gaer yn ddiweddar fe gamodd Adam Davies i’r bwlch wrth iddo fanteisio ar gamgymeriad y golwr gan sgorio’i 12 gôl o’r tymor a rhoi Caernarfon ar y blaen ar ôl naw munud.

Daliodd Caernarfon eu gafael ar eu mantais wedyn ond dim ond hyd at 70 munud. O gic rydd fe lwyddodd amddiffynnwr Met Caerdydd, Emlyn Lewis, i gael cefn ei droed i’r groesiad a chyfeirio’r bêl tua’r rhwyd.

Mwyaf sydyn fe aeth pethau’n bryderus i Gaernarfon wedi hynny wrth i Eliot Evans ychwanegu ail gôl i Fet Caerdydd a’u rhoi ar y blaen wrth iddo droi’n gyflym a tharo ergyd ragorol i gefn y rhwyd.

Bryd hynny roedd Hwlffordd yn ennill o gôl i ddim yn erbyn y Bala hefyd ac felly pe bai pethau wedi aros fel yr oedd hi, Hwlffordd, ac nid Caernarfon, fyddai wedi gorffen yn y chweched safle.

Diolch byth i Gaernarfon fe ddaeth Bala yn ôl i guro yn erbyn Hwlffordd gyda nifer o goliau hwyr.

Yn eu gêm hwythau fe dawelwyd eu hofnau ymhellach wrth i Danny Gosset ddod a’i dîm yn gyfartal gyda’i gôl gyntaf o’r tymor gan wneud yn siŵr eu bod yn dal eu gafael ar y chweched safle.

Parhau mae record ddigalon Met Caerdydd yn erbyn Caernarfon gyda’u buddugoliaeth ddiwethaf yn eu herbyn nôl yn Ionawr 2020.

 

(Dydd Sadwrn)

Pen-y-bont 0-1 Cei Connah

Ar ôl rhoi cyfle annisgwyl iddyn nhw eu hunain fedru sleifio i mewn i’r chwech uchaf ar yr eiliad olaf wedi dwy fuddugoliaeth dda yn ddiweddar, ni ddaeth Pen-y-bont yn agos mewn gwirionedd i gyflawni hynny nos Sadwrn.

Cafwyd dechrau cythryblus i’r gêm wrth i reolwr Cei Connah, Neil Gibson, dderbyn cerdyn coch am gega ar y dyfarnwr am iddo beidio â dangos ail gerdyn melyn posib i un o chwaraewyr Pen-y-bont.

Gyda’r ddau dîm yn methu’n lân â sgorio daeth unig gôl y noson ar ôl 87 munud wrth i’r eilydd Michael Wilde benio Cei Connah ar y blaen gan sicrhau eu seithfed buddugoliaeth mewn wyth.

Gorffenodd y gêm yn union fel y dechreuodd hi gyda thaclo ffyrnig gan y naill dîm a’r llall yn arwain at gerdyn coch arall. Declan Poole i Gei Connah y tro hwn yn derbyn ei ail gerdyn melyn ac yn cael ei anfon o’r cae yn y munudau olaf.

Ar ddiwedd y gêm fe siaradodd rheolwr Pen-y-bont, Rhys Griffiths, yn gwbl ddi flewyn ar dafod ynglŷn â’r sefyllfa ddiweddar gyda’r gynghrair yn tynnu tri phwynt oddi arnynt am chwarae chwaraewyr anghymwys.

Dyma’r ail dymor yn olynol i’r clwb golli pwyntiau yn sgil torri rheolau’r gynghrair.

“Mae’n rhaid i ni apelio erbyn dydd Llun, o’n safbwynt i mae angen i ni neud hynny,” meddai Griffiths.

“Mi rydym ni mewn sefyllfa lle rydym ni’n tynnu pwyntiau oddi ar glybiau pan nad ydynt wedi cal unrhyw fantais o ran y chwaraeon ei hun o gwbl, a does dim esgeulustod o ran arian sy’n mynd i fygwth sefydlogrwydd y clwb neu’r gynghrair.

“Y cwbl ydyw yn syml ydi gwall gweinyddol, sydd ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i unrhyw un…Mae gennym ni wirfoddolwyr, fel clybiau eraill yn y pyramid Cymreig, yn ceisio cadw’r clwb yn fyw ac i Gymdeithas Bêl-droed Cymru dynnu tri phwynt oddi arnom am wall gweinyddol, mae’n warthus.

“Mae’n hen bryd iddynt ddangos ychydig o gryfder a defnyddio synnwyr a rhoi cymorth i glybiau Cymreig fynd ymlaen a pharhau yn fyw, oherwydd mae nhw’n ein lladd.”

 

(Nos Sadwrn)

Hwlffordd 2-3 Y Bala

Daeth tair gôl Y Bala nos Sadwrn yn hwyr yn y gêm wrth iddynt guro eu trydedd gêm yn olynol. Roedd angen i Hwlffordd ennill os am unrhyw obaith o basio Caernarfon a gorffen yn chweched.

Mewn deg gêm ymhob cystadleuaeth bellach, dim ond un mae’r Bala wedi’i cholli ac mae eu perfformiadau safonol diweddar yn golygu eu bod yn eistedd yn gyfforddus yn y trydydd safle.

Dyma’r degfed tymor yn olynol iddynt orffen yn y chwech uchaf hefyd.

Hwlffordd aeth ar y blaen yn gyntaf nos Sadwrn gyda neb llai na Martell Taylor-Crossdale. Arbedwyd ei beniad gan y golwr ond llwyddodd yr ymosodwr i gael y gorau ohono pan laniodd y bêl yn ôl wrth ei draed. Mae ganddo bellach wyth gôl i’w enw a hynny yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb.

Wedi i Tyrese Owen daro’r postyn gyda’i ergyd a fyddai wedi rhoi Hwlffordd ddwy gôl i ddim ar y blaen, ar ôl 86 o funudau fe darodd Bala yn ôl gyda’r eilydd Josh Ukek yn sgorio’i bumed gôl yn ei wythfed gêm yn y gynghrair i’r clwb.

Wedi 90 munud fe roddwyd diwedd ar obeithion Hwlffordd o basio Caernarfon a gorffen o fewn y chwech uchaf wrth i eilydd arall Y Bala, Iwan Roberts, grymanu’r bêl i gornel ucha’r rhwyd gan roi ei dîm ar y blaen.

Funud yn unig wedyn fe sgoriodd Hwlffordd gôl hwyr eu hunain a hynny drwy Ben Fawcett.

Ond yn syth ym mhen arall y cae wedi hynny fe sgoriodd Y Bala un arall gyda thactegau’r rheolwr, Colin Caton, yn gweithio unwaith yn rhagor wrth i’w drydydd eilydd o’r noson, Luke Wall y tro hwn, hefyd ganfod cefn y rhwyd a hynny gydag ergyd ragorol i’r gornel isaf.

Doedd hi ddim i fod i Hwlffordd eleni felly gyda Tony Pennock a’i dîm yn gorfod bodloni ar y seithfed safle. Ond wrth gwrs, pe baent yn cadw’r safle hwnnw erbyn diwedd y tymor fe fyddai ganddynt gyfle o chwarae yn y gemau ail gyfle ar gyfer Ewrop.

Rhaid mynd yn ôl i fis Hydref 2020 erbyn hyn ar gyfer buddugoliaeth ddiwethaf Hwlffordd yn erbyn Y Bala.

 

(Nos Sadwrn)

Bae Colwyn 2-3 Pontypridd

Er gwaetha’r llu o broblemau sydd gan Bontypridd ar ac oddi ar y cae a gyda’u rheolwr Andrew Stokes yn ymddiswyddo ddechrau’r mis fe lwyddon nhw i gipio’r tri phwynt yn y munudau olaf ym Mae Colwyn nos Sadwrn. Dyma’r ail gêm oddi cartref yn unig i Bontypridd ei churo’r tymor hwn.

Gyda Bae Colwyn ac Aberystwyth uwch eu pennau roedd hi’n hanfodol nad oedd Pontypridd, sy’n parhau ar waelod y gynghrair, yn mynd adref yn waglaw ar ddiwedd y gêm hon.

Mae pethau’n edrych ychydig yn well wedi’r fuddugoliaeth gydag un pwynt o wahaniaeth yn eu gwahanu nhw a Bae Colwyn bellach a dau bwynt o wahaniaeth rhyngddynt hwy ac Aberystwyth.

Clayton Green roddodd hwy ar y blaen a hynny gyda pheniad dda ar ôl 12 munud.

Yn ei gêm gyntaf i Fae Colwyn ar ôl ymuno ar fenthyg o Gei Connah yr wythnos hon fe sgoriodd yr amddiffynnwr ifanc, Harry Owen, wedi 55 munud gyda’i ergyd yn canfod cefn y rhwyd oddi ar y postyn.

Gyda thîm Steve Evans yn brwydro tua’r gwaelod dydi hi ddim yn syndod fod y clwb yn chwilio am wynebau newydd. Owen oedd y pumed chwaraewr iddynt ei arwyddo’r mis hwn.

Wedi 63 o funudau fe aeth yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen wrth i Luke Cummings guro’r golwr gyda foli wych gydag ochr ei droed.

Yn amser ychwanegol fe roddwyd cic o’r smotyn i Fae Colwyn wedi i Alex Downes gael ei lorio. Llwyddodd Udoyen Akpan i rwydo gan wylltio chwaraewyr a thîm rheoli Pontypridd hyd yn oed yn fwy a hwythau’n gwbl anhapus gyda phenderfyniad y dyfarnwr i roi cic o’r smotyn.

Buan iawn yr anghofiwyd am y digwyddiad dadleuol hwnnw pan roddodd y chwaraewr ifanc, Ethan Vaughan, Bontypridd yn ôl ar y blaen yn yr eiliadau olaf gan gipio’r tri phwynt hollbwysig iddynt.

Gyda’i dîm wedi colli chwe gêm yn olynol yn y gynghrair mae Steve Evans yn cydnabod y sefyllfa yn llwyr.

“Mae’n frwydr i aros i fyny…mae rhyngom ni, Pontypridd ac Aber ac mae’n rhaid i ni orffen ar dop y gynghrair fechan honno,” meddai.

 

(Nos Sadwrn)

Aberystwyth 2-4 Y Barri

Gydag Aberystwyth wedi ennill y bedair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri, gan gynnwys dwy y tymor hwn yn y gynghrair ac yng nghwpan y gynghrair, fe dalodd Y Barri y pwyth yn ôl iddynt nos Sadwrn wrth iddynt sgorio pedair a hynny am yr ail benwythnos yn olynol.

Mae’r gynghrair bellach wedi’i haneru am weddill y tymor ac mae’r fuddugoliaeth hon i dîm Steve Jenkins wedi ymestyn y bwlch rhwng Y Barri yn y nawfed safle ac Aberystwyth yn y degfed safle i wyth pwynt.

Rhoddodd John Owen y tîm cartref ar y blaen i ddechrau a hynny wedi dim ond dau funud. Ergyd ddeallus ganddo yn twyllo’r golwr gan blannu’r bêl yng nghornel y rhwyd.

Yn fuan ar ddechrau’r ail hanner fe darodd Y Barri yn ôl wrth i Sam Snaith anelu ergyd berffaith tuag at gefn y rhwyd.

O fewn dau funud roedd Y Barri wedi sgorio eu hail gyda Lucas Tomlinson y tro hwn yn llwyddo i guro’r golwr gyda hanner foli arbennig. Dyma ei gôl gyntaf i’r Barri ers ymuno o Yate Town ar ddechrau’r tymor.

Parhau i gryfhau wnaeth yr ymwelwyr wrth iddynt fynd dair gôl i un ar y blaen ar ôl 74 munud diolch i beniad Kayne McLaggon.

Gyda deng munud i fynd fe roddodd Ollie Hulbert ei dîm ymhellach ar y blaen wrth i’r Barri wrth ymosod yn beryglus cyn i Hulbert guro’r golwr gyda’i ergyd. Hon oedd degfed gôl prif sgoriwr Y Barri y tymor hwn.

Yr unig gysur i Aberystwyth erbyn y diwedd oedd bod eu chwaraewr newydd, Jonathan Evans, a ail-ymunodd â’r clwb yr wythnos hon, wedi llwyddo i sgorio yn hwyr yn y gêm a hynny ar ôl dod ymlaen gyda phymtheg munud yng ngweddill.

 

(Nos Sadwrn)

Y Seintiau Newydd 3-1 Y Drenewydd

Gorffenodd Y Seintiau Newydd rhan gyntaf eu tymor mewn steil gyda’r fuddugoliaeth yn erbyn Y Drenewydd yn ymestyn eu rhediad o fuddugoliaethau ymhob cystadleuaeth i 17. Maent hefyd ar rediad o 32 gêm heb golli.

Gyda’r newyddion wythnos ddiwethaf fod Chris Hughes a fu’n rheolwr Y Drenewydd am ddeng mlynedd yn gadael y clwb y peth diwethaf oedd ei angen arnynt oedd gêm yn erbyn y pencampwyr.

Ar ôl 36 munud rhoddodd Brad Young Y Seintiau Newydd ar y blaen gydag ergyd bwerus ganddo yn hedfan i gefn y rhwyd.

Fe beniodd Jason Oswell yr ymwelwyr yn gyfartal ar ddechrau’r ail hanner gyda’r ymosodwr yn ei ôl yn ddiweddar ar ôl bod allan am gyfnod gydag anaf.

Gyda hanner awr i fynd fe aeth Y Seintiau Newydd yn ôl ar y blaen wrth i Jordan Williams godi’r bêl dros ben y golwr yn gelfydd.

Dros ben y golwr unwaith eto, ond o bellter gwirioneddol y tro hwn, fe lwyddodd Declan McManus i sgorio’r drydedd i’r Seintiau Newydd a sicrhau buddugoliaeth arall iddynt.