- Y Seintiau Newydd yn bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am yr 16eg gwaith ac yn anelu i ychwanegu dwy gwpan arall at eu casgliad yn fuan
- Y Bala yn anelu i gadw eu lle yn y trydydd safle yn y gobaith o gyrraedd Ewrop drwy osgoi’r gemau ail gyfle
- Pontypridd ddim yr un un dan reolaeth Gavin Allen ar ôl buddugoliaeth arall, yn erbyn Pen-y-bont y tro hwn
- Caernarfon yn codi i’r pedwerydd safle wrth i’r Drenewydd golli eu hwythfed gêm yn olynol
- Gêm gyfartal yn erbyn Y Barri yn gadael Aberystwyth yn y ddau isaf a’u rheolwr, Anthony Williams, yn gandryll gyda safon y dyfarnu
- Hwlffordd yn cadw eu lle yn y seithfed safle am y tro, tra bod Bae Colwyn yn wynebu tasg anodd wrth geisio aros yn y gynghrair
Y Seintiau Newydd 4-0 Met Caerdydd
Wedi i Gei Connah fethu â churo’r Bala nos Wener roedd Y Seintiau Newydd yn gwybod y byddai ennill yn erbyn Met Caerdydd yn golygu y byddent yn bencampwyr y gynghrair am yr 16eg gwaith, ac felly bu hi, gyda pherfformiad campus arall gan yr ymosodwr ifanc Brad Young yn ennill y gêm iddynt mewn steil.
Mae’r Seintiau Newydd yn hen law arni bellach â hwythau wedi ennill yr un nifer o bencampwriaethau ac y mae gweddill y clybiau wedi’i wneud gyda’i gilydd.
“Neith o fyth deimlo cystal â’r cyntaf ges i ond ar ôl hynny maen nhw i gyd wedi bod yn wych a fedrwch chi ddim dod i arfer ag o,” meddai’r rheolwr, Craig Harrison.
I fynd gam ymhellach yr her nawr yw mynd am Gwpan Cymru a Chwpan Her Yr Alban a fyddai’n rhoi casgliad o bedair cwpan iddynt ar ddiwedd y tymor, camp nad oes unrhyw glwb yng nghynghreiriau Cymru wedi’i chyflawni erioed o’r blaen.
Gyda Chwpan y Gynghrair a’r Gynghrair eisoes yn eu dwylo, dim ond tair gêm arall fyddai rhaid iddynt eu hennill er mwyn cwblhau’r casgliad. Daw’r ddwy gyntaf y mis hwn, wrth iddynt wynebu Airdrieonians i fyny yn yr Alban yn ffeinal Cwpan Her Yr Alban cyn yna chwarae Met Caerdydd mewn gêm gynderfynol Cwpan Cymru.
Gyda Brad Young yn ymddangos yn beryglus o’r dechrau un amser cinio ddydd Sadwrn, cafodd ei gôl gyntaf wedi chwarter awr, wrth iddo ganfod gwagle tu ôl i’r amddiffyn ac anwesu’r bêl heibio’r golwr ac i gefn y rhwyd.
Parhaodd i achosi trafferth i amddiffyn Met Caerdydd ac ar ôl 22 o funudau fe arweiniodd camgymeriad gan Dixon Kabongo yng nghanol y cae at gôl arall i Young wrth iddo rwydo’n hyderus unwaith eto.
Wedi i sylwebydd Sgorio, Malcolm Allen, amlygu pa mor hawdd oedd hi i’r Seintiau Newydd buan iawn y daeth y drydedd gôl wedyn hefyd. Ben Clark y tro hwn yn rhwydo’n rhwydd wedi i rediad da Josh Daniels, a’i groesiad, achosi problemau pellach i’r gwrthwynebwyr.
O fewn hanner awr felly, roeddent wedi hen ennill y gêm ac yn carlamu’n hyderus tuag at bencampwriaeth arall.
Daeth prynhawn caled Emlyn Lewis i ben ddeng munud cyn y diwedd wrth iddo dderbyn cerdyn coch am dynnu Brad Young i lawr ag yntau drwodd am y gôl ar ôl cael y gorau ar Lewis unwaith yn rhagor.
Gyda hop, sgip a naid fe sgoriodd Young ei drydedd o’r gêm o’r smotyn i gwblhau ei hat-tric. Dyma’i bedwaredd hat-tric y tymor hwn. Mae ganddo 27 gôl mewn 28 gêm yn ei dymor cyntaf yma yng Nghymru erbyn hyn.
Yn ogystal ag ennill y pedair cwpan, mae curo eu record o 27 buddugoliaeth yn olynol yn darged arall iddynt. Wedi ennill eu 24ain gêm yn erbyn Met Caerdydd, pe bai iddynt fethu â phasio trothwy’r record nawr fe fyddai’n dra siomedig a hwythau cyn agosed.
Anelant hefyd i fynd chwe gêm arall yn y gynghrair heb golli gan eu gwneud yr ail dîm yn unig, ynghyd â’r Barri yn 98, i fynd drwy dymor cyfan heb golli’r un gêm.
Y Bala 1-0 Cei Connah
Mater o amser oedd hi cyn i’r Seintiau Newydd gael eu hadnabod yn bencampwyr swyddogol y gynghrair am dymor arall, ac fe alluogodd colled Cei Connah i’r anochel ddigwydd lawer ynghynt.
Roedd hon yn gêm rhwng y ddau dîm cryfaf yn y gynghrair, ar wahân i’r Seintiau Newydd, gyda’r unig gemau yn ddiweddar i’r ddau glwb golli wedi’u chwarae yn erbyn y pencampwyr.
Cic o’r smotyn George Newell i’r Bala oedd yr hyn a wahanodd y ddau. Ar ôl 56 munud fe dynwyd Abadaki i lawr yn y cwrt, gan roi’r cyfle i Newell sgorio ei chweched gôl mewn tair gêm.
Gyda chwe gêm i fynd dan ddiwedd y tymor, mae Cei Connah yn yr ail safle a’r Bala yn drydydd. Er i’r Bala eu trechu, maent yn parhau i fod ddeg pwynt tu ôl iddynt ac felly’n annhebygol o’u dal.
Tra bod safleoedd uchaf y gynghrair fwy neu lai wedi’u cadarnhau, y gêm gynderfynol yng Nghwpan Cymru rhwng Y Bala a Chei Connah fydd yn cael y prif sylw nawr. Ddiwedd y mis bydd y ddau’n wynebu ei gilydd yn Llandudno er mwyn ceisio cyrraedd ffeinal y gwpan yn erbyn naill ai’r Seintiau Newydd neu Met Caerdydd.
Gall enillydd Cwpan Cymru gael effaith ar y safleoedd Ewropeaidd hefyd. Pe bai’r enillydd yn un o’r ddau uchaf yn y gynghrair, sef un ai Seintiau Newydd neu Gei Connah, byddai’n golygu y byddai’r trydydd safle yn y gynghrair yn cael cyrraedd Ewrop ar eu hunion, gan osgoi’r gemau ail gyfle.
Dyma’r union sefyllfa a gafwyd yn y naw tymor diwethaf, ac felly bydd Y Bala yn wyliadwrus o unrhyw dîm oddi tanynt allai eu dal a chipio’r trydydd safle hwnnw a all fod yn hynod werthfawr eto eleni.
Pen-y-bont 0-1 Pontypridd
Ers i Gavin Allen gymryd yr awenau ym Mhontypridd mae’r tîm wedi’i drawsnewid yn llwyr, a hynny er gwaethaf y problemau sydd ganddynt y tu hwnt i’r cae.
Naw pwynt maent wedi’u colli erbyn hyn, gyda’r tri diweddaraf wedi’i dynnu oddi arnynt yn yr wythnosau diwethaf. Mae Allen wedi llwyddo i anwybyddu’r helbulon hyn a bellach yn ddiguro yn ei bedair gêm gyntaf gyda’r clwb, a’r fuddugoliaeth hon ym Mhen-y-bont yr orau eto.
Bu bron i olwr newydd Pen-y-bont, Adam Przybek, wneud llanast o bethau yn gynnar yn y gêm wrth iddo ddal ar y bêl eiliad yn ormod gan adael i Owain Jones ei hennill oddi arno. Mewn modd dramatig, gyda’r gôl yn wag a’r golwr ar ei war, taro’r postyn wnaeth Jones yn y diwedd.
Yn y gôl i Bontypridd roedd George Ratcliffe yn gadarn fel yr arfer, gydag arbedion pwysig ganddo sawl gwaith. Gallai record amddiffynnol dda Pontypridd fod o fantais fawr iddynt erbyn diwedd y tymor gyda’u gwahaniaeth goliau dipyn yn well o gymharu ag Aberystwyth a Bae Colwyn.
Connor Roberts o’r Seintiau Newydd yw’r unig olwr sydd â mwy o gemau i’w enw lle nad yw wedi ildio gôl – Pedair ar ddeg llechen lân i Roberts a naw i Ratcliffe.
Yn erbyn llif y chwarae fe sgoriodd Pontypridd y gôl allweddol wedi 83 munud. Yr Almaenwr, Jan Maertins, ar ôl dod ymlaen gyda chwarter awr i fynd yn sgorio’i gôl gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru gydag ergyd bwerus o ymyl y cwrt.
Fe gododd y fuddugoliaeth hon dîm Gavin Allen allan o’r ddau isaf ac i fyny i’r degfed safle unwaith eto. Gobeithiant nawr na fydd mwy o bwyntiau’n cael eu tynnu oddi arnynt gan ddad-wneud eu gwaith da ar y cae unwaith yn rhagor.
Collodd Pen-y-bont gyfle arall i basio Hwlffordd a chyrraedd y seithfed safle felly. Oddi cartref yn Hwlffordd y mae eu gêm nesaf hefyd, un all fod yn hynod dyngedfennol o ran yr un fydd yn gorffen ar frig rhan isaf y gynghrair ymhen chwe gêm.
Caernarfon 1-0 Y Drenewydd
Diolch i gôl Danny Gosset ar ôl 37 munud wrth iddo osod y bêl yn osgeiddig yng nghefn y rhwyd, mae Caernarfon bellach wedi codi i’r pedwerydd safle, wyth pwynt tu ôl i’r Bala sy’n drydydd.
Fe gadwodd Lewis Webb ei dîm ar y blaen gydag arbedion o safon drwy gydol y 90 munud. Gan gynnwys un arbediad rhagorol yn yr ail hanner i atal foli nerthol gan George Hughes i’r Drenewydd.
Yn hwyrach wedyn ni chaniatawyd gôl Zack Clarke a fyddai wedi rhoi Caernarfon ymhellach ar y blaen a hynny am iddo gamsefyll. Gellid dadlau serch hyn fod y bêl a roddwyd iddo wedi dod oddi ar un o chwaraewyr y gwrthwynebwyr, gan olygu y dylai’r gôl fod wedi’i rhoi.
Wrth lwc iddyn nhw, ni effeithiwyd ar y sgôr ymhellach, er i’r Drenewydd ddod yn agos gydag ergyd Robert Evans yn cael ei harbed eto gan berfformiwr y noson, Lewis Webb.
Tipyn o sialens fydd hi i Gaernarfon geisio gorffen yn drydydd o flaen Y Bala, ond nid yw’n hollol amhosib. Pe bai enillydd Cwpan Cymru, fel sydd wedi digwydd yn y naw tymor diwethaf, yn un o’r ddau dîm uchaf yn safleoedd y gynghrair, yna fe fyddai’r sawl yn y trydydd safle yn cael cyrraedd Ewrop ar eu hunion gan osgoi’r gemau ail gyfle.
Ar wahân i hynny, fe all gorffen un safle yn uwch olygu eu bod yn cael chwarae’r gêm ail gyfle adref. Gwyddom yn iawn pa mor fanteisiol allai hyn fod i Gaernarfon o ystyried y gefnogaeth a gânt yn Yr Ofal.
Ta waeth beth fydd y sefyllfa ymhen chwe gêm, cyrraed Ewrop yn y pen draw fydd y gobaith a hynny am y tro cyntaf erioed yn eu hanes. Rhywbeth y mae’r rheolwr, Richard Davies, yn ei freuddwydio am wneud.
“Dwi’n trio peidio meddwl amdano fo gormod, achos ma raid i ni fod yn realistig yn fama, mana lot o dima da, ond dyna di’r breuddwyd, dyna dwi isio, dyna dani’n drio neud fel clwb a chwaraewyr, dyna di’r aim, felly ia gawni gyd breuddwydio.”
Dydi pethau ddim ar ben i’r Drenewydd chwaith, er eu bod wedi colli eu hwyth gêm ddiwethaf. A hwythau’n chwarae Met Caerdydd adref nesaf, sydd hefyd ar rediad go wael yn y gynghrair, mae’n gyfle perffaith iddynt ddechrau siapio er mwyn paratoi eu hunain ar gyfer y gemau ail gyfle pan ddônt.
Aberystwyth 1-1 Y Barri
Ni allai Ben Wollam fod wedi meddwl am ffordd well o sgorio’i gôl gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru pan darodd ergyd gwbl arbennig ymhell tu allan i’r cwrt gan hedfan heibio’r golwr ar ôl 11 munud.
Roedd yr amddiffynnwr canol 20 oed, sydd ar fenthyg o’r Seintiau Newydd dan yr haf, ar ben ei ddigon, fel y disgwylir iddo fod hefyd ar ôl gôl mor wych.
Pan faglwyd Lucas Tomlinson gan Louis Bradford yn y cwrt yn ddiweddarach, rhoddwyd cic o’r smotyn i’r Barri, gyda Keenan Patten wedyn yn rhwydo’i gôl gyntaf o’r tymor ar ôl 20 munud.
Mynegodd rheolwr Aberystwyth, Anthony Williams, ei rwystredigaeth ar ddiwedd y gêm, gyda’i dîm bellach yn ôl yn y ddau isaf.
“Mi wnaethon ni reoli’r gêm yn gyfforddus, o ran meddiant, o ran ciciau cornel a chyfleoedd. Cic o’r smotyn iddyn nhw? Mi ro’n i’n edrych ar y cynorthwywr ac mi ddywedodd nad oedd hi ddim, ac roeddwn i’n meddwl gant y cant nad oedd hi ddim, a phan glywais i’r llumanwr yn dweud ei fod yn meddwl ei bod hi, mae’n anodd, mae’n un anodd iawn.
“Ac wedyn mae ein golwr ni’n cael ei dynnu i lawr, ac yn dod i ffwrdd gydag anaf, gallai fod allan am beth amser, a dwi’n cael cerdyn am hynny. Mae’n warthus, mae’n andros o wael. Ac mai’n andros o anodd gwneud hyn o wythnos i wythnos…dydio ddim yn iawn, mae’n wael, dydio ddim digon da, mae o angen ei ddatrys.”
O ran safleoedd y cwymp does gan Y Barri ddim llawer i’w boeni yn ei gylch ond tybiwn eu bod yn siomedig yn eu methiant i roi pwysau ar Ben-y-bont a Hwlffordd yn ystod ail ran y tymor.
Wedi’r cyfan, dim ond pedwar pwynt y tu ôl i’r seithfed safle y maen nhw. Pe baent wedi llwyddo i gael mwy o’u gemau diwethaf, yn hytrach na thair gêm gyfartal, gallai pethau fod wedi edrych hyd yn oed yn well iddynt.
Bae Colwyn 0-0 Hwlffordd
Rhywsut neu’i gilydd, a hwythau heb ennill mewn chwe gêm erbyn hyn, mae Hwlffordd yn parhau i fod bedwar pwynt yn glir yn y seithfed safle a hynny’n bennaf oherwydd i Ben-y-bont a’r Barri fethu manteisio ar y cyfle i ddringo’r tabl yn eu gemau hwythau.
Does ryfedd fod Hwlffordd wedi ymestyn cytundeb eu golwr, Zac Jones, yr wythnos ddiwethaf, ag yntau’n perfformio mor dda iddynt fel y gwnaeth eto yn erbyn Bae Colwyn, gydag arbedion da ganddo un ar ôl y llall yn yr hanner cyntaf.
Fe lwyddodd Hwlffordd i roi’r bêl yng nghefn y rhwyd yn yr ail hanner a hynny drwy beniad Kai Whitmore, ond diddymwyd y gôl oherwydd camsefyll.
Wedi a methu â churo gêm arall, symud ymlaen tuag at gêm allweddol yn erbyn Pen-y-bont fydd tîm Tony Pennock yn ei wneud nesaf, gyda’r gobaith o gipio tri phwynt a fyddai’n ymestyn y bwlch rhyngddynt i saith pwynt. Byddai buddugoliaeth i Ben-y-bont ar y llaw arall yn cau’r bwlch i bwynt yn unig.
Wedi’r gêm gyfartal hon mae Bae Colwyn yn parhau i fod yn y 12fed safle ac ar waelod y tabl. Maent ddau bwynt oddi wrth y safleoedd diogel ac felly’n dal i obeithio y gallent droi’r gornel cyn bo hir.
Ond wedi dweud hynny, fe fyddai eu canlyniadau dros y misoedd diwethaf yn awgrymu fod y dasg sydd o’u blaenau yn un anodd dros ben. O 27 pwynt posib y gallent fod wedi eu hennill yn eu naw gêm ddiwethaf, pedwar yn unig sydd ganddynt i’w ddangos.
Gemau i ddod:
(Nos Wener – 8fed o Fawrth)
- Y Bala v Caernarfon
- Cei Connah v Y Seintiau Newydd
- Hwlffordd v Pen-y-bont
(Dydd Sadwrn – 9fed o Fawrth)
- Y Drenewydd v Met Caerdydd
- Y Barri v Bae Colwyn
- Pontypridd v Aberystwyth