- Hwlffordd dri phwynt ar y blaen yn y seithfed safle tra bod Bae Colwyn ar waelod y gynghrair ar drothwy penwythnos ola’r tymor
- Ar ôl colli yn erbyn Penybont fe aeth wythnos Pontypridd o ddrwg i waeth wedi i’w hapêl am drwydded fethu, gan olygu y byddent yn disgyn o’r gynghrair
- Aberystwyth yn colli yn Y Barri ac yn parhau i orfod brwydro hyd at y gêm olaf er mwyn diogelu eu record o chwarae ymhob un tymor yn y gynghrair ers ei ffurfio ym 1992
- Y Drenewydd yn rhoi cweir i Gaernarfon ac yn codi i’r pedwerydd safle gyda’r gemau ail gyfle Ewropeaidd ar y gorwel
- Y Seintiau Newydd yn carlamu yn eu blaenau ac o fewn un gêm arall i gwblhau tymor cyfan yn yr Uwch Gynghrair heb golli unrhyw gêm
- Di-sgôr rhwng Cei Connah a’r Bala gyda’r ddau eisoes yn sicr o’u lle yn y gemau Ewropeaidd yn yr haf
Hwlffordd 3-1 Bae Colwyn
Er mwyn cadw eu lle yn y seithfed safle gwerthfawr hwnnw mae Hwlffordd wedi llwyddo i gael canlyniadau da pan oedd wir eu hangen arnynt. Hon oedd eu pedwaredd fuddugoliaeth yn olynol sydd wedi’u cadw dri phwynt uwchben Penybont o hyd.
Daw’r gynghrair i ben y penwythnos hwn gyda’r ddau yn wynebu ei gilydd yn y frwydr dyngedfennol ar gyfer y safle a fyddai’n sicrhau lle yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd.
Ar ôl ennill am y tro cyntaf ers chwe gêm yn ddiweddar ni lwyddodd Bae Colwyn i adeiladu ar hynny gyda’r golled yn eu gadael ar waelod y gynghrair a dau bwynt oddi wrth y safleoedd diogel.
Mae’n syml erbyn hyn, yn eu gêm olaf yn erbyn Y Barri ddydd Sul bydd rhaid iddynt ennill, gan obeithio hefyd na fydd Aberystwyth yn trechu Pontypridd. Pe ceir unrhyw sefyllfa arall, fe fydd Bae Colwyn yn disgyn o’r gynghrair.
Fe aeth Hwlffordd amdani o’r eiliad gyntaf ac ar ôl wyth munud rhoddodd Rhys Abbruzzese ei dîm ar y blaen gyda chic rydd hyfryd gyda’i droed chwith yn canfod cornel ucha’r rhwyd gan adael y golwr yn ei unfan.
Ymhen dau funud roedd Abbruzzese wrthi eto ac o gic rydd arall ganddo y daeth yr ail gôl hefyd wrth i’r amddiffynnwr canol Lee Jenkins ddefnyddio cefn ei ben i benio’r tîm cartref ymhellach ar y blaen.
Yn yr ail hanner daeth Udoyen Akpan yn hynod o agos i Fae Colwyn gyda foli dda, ond fe arbedwyd ei gynnig.
Chwarter awr cyn y diwedd fe chwalwyd unrhyw obeithion Bae Colwyn yn deilchion wrth i’w golwr ifanc, Reece Trueman, basio yn syth i lwybr Ben Fawcett a rwydodd yn rhwydd.
Yn hwyr yn amser ychwanegol fe sgoriodd Tom McCready i Fae Colwyn. Er mor ddibwys o ran y gêm, gallai fod yn bwysig ar gyfer y gemau olaf y penwythnos hwn gyda Bae Colwyn ac Aberystwyth yn hafal o ran gwahaniaeth goliau erbyn hyn.
Byddai buddugoliaeth o un gôl yn unig i Fae Colwyn yn erbyn Y Barri, ac Aberystwyth yn methu ag ennill eu gêm hwythau, yn ddigon i’w cadw yn y gynghrair.
Pontypridd 0-3 Penybont
Parhau y mae’r problemau y tu hwnt i’r cae i Bontypridd wedi iddynt fethu gyda’u hapêl ar gyfer cael trwydded i chwarae yn y gynghrair y tymor nesaf.
Mewn tymor helbulus o golli pwyntiau a cholli rheolwr, mae’n bosib y bydd yn chwa o awyr iach i’r clwb ddechrau gyda llechen lân yn yr ail haen y tymor nesaf, gyda’r gobaith y gall Gavin Allen eu codi yn ôl i’r Uwch Gynghrair ar y cynnig cyntaf.
Dechreuodd Penybont yn fywiog a chafwyd y gôl gyntaf wedi 12 munud gyda Gabe Kircough yn sgorio am y tro cyntaf yn y gynghrair i Benybont.
Cafodd yr ymwelwyr eu hail wedi 20 munud wrth i waith da gan Mael Davies arwain at gôl arall gan yr hen ben, Chris Venables, wrth iddo ganfod y gwagle yn y cwrt yn gynt nag unrhyw un arall fel yr arfer.
Gyda chyfleoedd lu Penybont yn mynd ymaith, daeth y drydedd ar ôl 66 munud. Venables unwaith eto, wrth iddo dwyllo George Ratcliffe yn y gôl gan gario’r bêl o’i amgylch cyn sgorio’i ail o’r prynhawn a’i bedwaredd gôl mewn dwy.
Ar adeg dyngedfennol o’r tymor, gydag un gêm i fynd bellach, mae Penybont wedi gafael ynddi ac yn ddiguro yn eu pum gêm ddiwethaf. Enillwyd pedair o’r rheini a hynny heb ildio’r un gôl ac wrth sgorio 12.
O ran y frwydr am y seithfed safle mae’r llwyfan wedi’i osod gyda Phenybont yn chwarae Hwlffordd gartref ddydd Sul yma. Gwyddent y bydd rhaid iddynt ennill, gan y byddai unrhyw ganlyniad arall yn golygu mai Hwlffordd fyddai’n cyrraedd y gemau ail gyfle Ewropeaidd.
Y Barri 2-1 Aberystwyth
Yn un o’r ddau dîm, ynghyd â’r Drenewydd, i wedi chwarae ymhob tymor o’r gynghrair ers ei ffurfio ym 1992, ni all Aberystwyth orffwys ar eu rhwyfau eto gyda chanlyniad da ei angen arnynt ddydd Sul er mwyn cadw eu safle am flwyddyn arall.
Dau bwynt sy’n gwahanu’r ddau waelod ac Aberystwyth erbyn hyn. Ta waeth beth fyddai’n digwydd yn y gêm rhwng Bae Colwyn a’r Barri, byddai buddugoliaeth i Aberystwyth gartref yn erbyn Pontypridd yn eu cadw yn y gynghrair.
Foli gan yr ymosodwr Sam Snaith roddodd Y Barri ar y blaen wedi 11 munud.
Fe darodd yr ymwelwyr yn nôl ar ôl 64 munud a hynny gyda chic rydd annisgwyl gan Billy Kirkman yn canfod ei ffordd yn rhwydd drwy’r amddiffyn ac i gefn y rhwyd. Ac yntau’n ei ail dymor, dyma’i gôl gyntaf yn y gynghrair i Aberystwyth.
Yn ei gêm gartref olaf gyda’r Barri, ar ôl cyhoeddi y byddai’n gadael yn yr haf wedi deng mlynedd gyda’r clwb, daeth Jordan Cotterill yn agos i ffarwelio ar nodyn gwych ond fe rwystrwyd ei hanner foli gan y trawst.
Am yr eildro yn y gêm fe aeth Y Barri ar y blaen wedi 83 munud. Eu prif sgoriwr, Ollie Hulbert, yn sgorio’i 11fed gôl o’r tymor yn arbennig ac yn rhoi dim gobaith i Dave Jones yn y gôl.
Cyn y diwedd cafwyd mwy o gyffro wrth i ymgais Jonathan Evans i groesi arwain at lawio yn y cwrt gan amddiffynnwr Y Barri, Curtis McDonald, gyda’r dyfarnwr yn anwybyddu’r digwyddiad. Pwy a ŵyr pa mor werthfawr fyddai cic o’r smotyn, a phwynt ychwanegol posib, wedi bod o ran ymgais Aberystwyth i aros yn y gynghrair.
Daeth y fuddugoliaeth hon â rhediad gwael Y Barri o wyth gêm heb ennill i ben. Yn eu tymor cyntaf yn ôl yn y gynghrair maent yn gyfforddus yn y nawfed safle ac mewn sefyllfa sefydlog dan reolaeth eu rheolwr diweddaraf, Jonathan Jones.
Y Drenewydd 5-0 Caernarfon
Scott Ruscoe a’i dîm sydd â’r llaw uchaf o ran y gemau ail gyfle yn dilyn y fuddugoliaeth lewyrchus yn erbyn Caernarfon, y chweched tro yn olynol iddynt eu curo ym Mharc Latham.
Wrth wneud hynny fe basiodd Y Drenewydd hwy, a phasio Met Caerdydd, gan godi i’r pedwerydd safle hwnnw sy’n sicrhau gemau cartref yn y gemau ail gyfle hollbwysig ar gyfer cyrraedd Ewrop.
Aaron Williams gafodd y gyntaf a phwy arall ond ef? Gydag amddiffyn Caernarfon ar chwâl llwyddodd Williams i dorri’n rhydd cyn codi’r bêl yn osgeiddig dros y golwr ac i gefn y rhwyd.
Naw munud wedi dechrau’r ail hanner, yn dilyn ymgais ragorol gan Zeli Ismail a darodd y trawst, roedd Aaron Williams yno unwaith eto i rwydo a hynny gyda’i ben y tro hwn.
Hon oedd ei 18fed gôl o’r tymor ac mae bellach wedi llwyddo i fynd un yn well yn ei ddau dymor diwethaf (21/22 – 16 gol, 22/23 – 17 gol, 23/24, 18 gol).
Deng munud yn ddiweddarach ac fe ychwanegodd George Hughes un arall at gasgliad ei dîm. Yn dilyn cyd chwarae da rhyngddo ef a Jason Oswell, anelodd ergyd safonol tuag at y gornel isaf. Zeli Ismail gafodd y bedwaredd a hynny o’r smotyn wedi 77 munud.
Gyda’r gêm yn dirwyn i ben fe arweiniodd blerwch pellach yn amddiffyn Caernarfon at gôl arall i’r Drenewydd wrth i Oswell ei rhoi ar blât i Louis Robles fedru sgorio’r bumed.
Ni allai golwr Caernarfon, Josh Tibbetts, fod wedi cael dechrau gwaeth na’r hyn y mae wedi’i wynebu yn ei ddwy gêm gyntaf ers ail ymuno ddechrau’r mis – dwy golled yn erbyn Y Seintiau Newydd a’r Drenewydd, gan ildio cyfanswm o 12 gôl.
Met Caerdydd 0-5 Y Seintiau Newydd
Efallai fod y gynghrair wedi’i hen ennill gan Y Seintiau Newydd ond parhau i chwarae fel pencampwyr heb eu hail maen nhw hyd y diwedd.
Maen nhw bellach ar fin cwblhau tymor cyfan yn y gynghrair heb golli’r un gêm. Er mai eu gelynion agosaf o ran safon, sef Cei Connah, fydd eu gwrthwynebwyr yn y gêm olaf y penwythnos hwn, tybir na fyddent hwythau yn ddim problem iddynt chwaith.
Pe byddent yn osgoi colled y penwythnos hwn, yna fe fyddent yr ail dîm yn hanes Uwch Gynghrair Cymru i fynd drwy dymor cyfan heb golli. Y Barri nôl yn nhymor 97/98 fyddai’r llall.
Declan McManus sgoriodd gyntaf a hynny gyda hanner foli wych i gornel ucha’r rhwyd. Ac yntau’n ail ddewis y tymor hwn yn sgil presenoldeb yr ymosodwr campus, Brad Young, ni lwyddodd i gael yr un dylanwad ac y cafodd yn ei ddau dymor cyntaf, ond mae’r ddawn naturiol i sgorio ganddo o hyd.
Parhau i lifo i mewn wnaeth y goliau gwych gyda Danny Williams yn taro chwip o foli heibio’r golwr ar ddechrau’r ail hanner.
I sgorio’i wythfed gôl mewn pedair fe gododd Declan McManus yn uwch na neb a phenio ei ail o’r prynhawn chwarter awr cyn y diwedd.
O’r un cyfeiriad y daeth y gôl nesaf hefyd gyda chroesiad arall o’r asgell gan Danny Redmond yn canfod pen Jared Harlock gyda’r chwaraewr ifanc yn ychwanegu’r bedwaredd.
I gwblhau casgliad o goliau o safon fe ymunodd Leo Smith yn y sgorio gyda’i ergyd yn hedfan i gornel bella’r rhwyd.
Cei Connah 0-0 Y Bala
Mae safleoedd y ddau dîm eisoes wedi’u pennu a gemau Ewropeaidd yn yr haf i ddod hefyd. Ac felly fel y disgwylir mae’n debyg, ni chafwyd y gêm orau rhyngddynt.
Cei Connah ymddangosodd gryfaf drwyddi draw. Ond bu ergydion Harry Franklin yn yr hanner cyntaf yn ddigon cyfforddus i’w delio â hwy gan Kelland Absalom yn y gôl.
Aethant ati eto yn yr ail hanner i geisio canfod cefn y rhwyd gyda Franklin wrth wraidd y cyfleoedd o hyd. Peniodd Jack Burman am y gôl yn hwyr yn y gêm ond aeth honno heibio’r nod hefyd.
Perfformiodd ei dîm yn dda yn ôl rheolwr Cei Connah, Neil Gibson: “Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n dda iawn. Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n wych o’n cwrt ni, hyd at 12 llath o’r gôl.
“Roedd gennym ni’r bêl ar lawr, ac yn ceisio chwarae, fe gawsom ni lawer o’r meddiant yn y gêm ond nid yw’n cyfri dim os nad ydych chi’n rhoi’r bêl yng nghefn y rhwyd.
“Pe byddem ni wedi cymryd ein cyfleoedd heddiw fe fyddem ni siŵr o fod wedi ennill y gêm yn weddol gyfforddus.”
Gemau i ddod:
(Dydd Sul – 21ain o Ebrill)
- Aberystwyth v Pontypridd
- Bae Colwyn v Y Barri
- Penybont v Hwlffordd
- Caernarfon v Y Bala
- Met Caerdydd v Y Drenewydd
- Y Seintiau Newydd v Cei Connah