• Bae Colwyn yn disgyn i waelod y gynghrair ar ôl colli yn erbyn Pen-y-bont
  • Dechrau gwych i reolwr newydd Pontypridd, Gavin Allen, yn erbyn Y Barri
  • Aberystwyth yn ennill dim ond eu hail gêm gartref o’r tymor yn erbyn Hwlffordd
  • Record anffodus Caernarfon yn parhau yn erbyn Cei Connah
  • Met Caerdydd yn gorfod bodloni ar bwynt yn Y Bala

(Dydd Sadwrn)

Bae Colwyn 1-2 Pen-y-bont

Er i Fae Colwyn ennill chwe phwynt o’u cyfanswm o 14 yn erbyn Pen-y-bont y tymor hwn ni lwyddon nhw i ennill mwy yn eu herbyn ddydd Sadwrn.

Yn dilyn y golled hon maent ar waelod y gynghrair, wedi i Bontypridd eu pasio. Maent hefyd wedi colli eu saith gêm ddiwethaf yn y gynghrair erbyn hyn.

Ag yntau yn chwarae am y tro cyntaf ers y gêm honno yn erbyn Bae Colwyn ym mis Tachwedd fe roddodd Chris Venables ei dîm ar y blaen gyda pheniad funudau cyn hanner amser.

Yn dilyn gwaith da unwaith eto gan y capten, Kane Owen, fe rwydodd Lincoln McFayden gyda hanner awr i fynd. Hon oedd ei gêm gyntaf i Ben-y-bont ar ôl ymuno ar fenthyg hyd at ddiwedd y tymor o dîm dan 21 Abertawe.

Gôl gysur oedd hi yn unig i Fae Colwyn pan sgoriodd Matty Hill ar ôl 90 munud. Ychydig yn rhy hwyr oedd hi iddynt fedru brwydro’n ôl felly.

(Dydd Sadwrn)

Y Barri 0-3 Pontypridd

Yn ei gêm gyntaf fel rheolwr y clwb cafodd Gavin Allen y dechrau gorau posib ddydd Sadwrn wrth i Bontypridd godi oddi ar waelod y tabl yn dilyn eu buddugoliaeth yn Y Barri.

Gyda thair buddugoliaeth mewn pedair gêm dyma’r cyfnod gorau i Bontypridd ei gael yn y gynghrair y tymor hwn.

Ahmun gafodd y gôl gyntaf brynhawn Sadwrn wrth iddo guro’r golwr i’r bêl a chanfod cefn y rhwyd yn gyfforddus.

Ers dod yn ôl o anaf yn ddiweddar mae’r ymosodwr wedi bod yn hwb oedd wirioneddol ei angen ar Bontypridd wrth iddynt frwydro i aros yn y gynghrair.

Hanner awr cyn y diwedd fe aethant ymhellach ar y blaen gydag Owain Jones y tro hwn yn rhwydo gyda pheniad o gic gornel.

Ugain munud yn ddiweddarach, Wedi i Bontypridd ddod yn agos i sgorio sawl gwaith, fe gafon nhw eu trydedd a hynny diolch i gôl gyntaf Owen Pritchard i’r clwb.

(Nos Wener)

Aberystwyth 1-0 Hwlffordd

Dim ond un fuddugoliaeth oedd Aberystwyth wedi’i chael mewn naw gêm cyn nos Wener ac felly roedd hi’r dechrau gorau un iddynt ar gyfer ail ran y tymor.

Dyma oedd eu hail fuddugoliaeth gartref yn unig hyd yn hyn hefyd. Rhyddhad arall iddynt mae’n rhaid dweud, wrth iddynt geisio cadw eu hunain uwchlaw’r ddau safle isaf hynny yn y gynghrair.

Ar ôl dechrau tawel i’r gêm rhoddodd Iwan Lewis Aberystwyth ar y blaen funudau cyn hanner amser. Ei ergyd yn gwyro oddi ar Ricky Watts ac yn canfod cefn y rhwyd.

Wedi hynny fe weithiodd Hwlffordd yn galed i ddod o hyd i gôl gyda Martell Taylor-Crossdale yn agos i sgorio iddynt fwy nag unwaith.

Ond er gwaetha’r pwysau fe lwyddodd Aberystwyth i ddal eu gafael ar eu mantais werthfawr hyd y diwedd.

(Nos Wener)

Cei Connah 1-1 Caernarfon 

Bydd rhaid i Gaernarfon aros am beth amser eto cyn cael y cyfle i guro Cei Connah â hwythau heb wneud hynny ers 2019 bellach.

Chwaraeodd Callum Morris ei gêm olaf i Gei Connah nos Wener a hynny ar ôl i’r chwaraewr canol cael chwarae 320 o gemau iddynt, gan sgorio 82 o goliau mewn naw tymor. Enillodd y gynghrair gyda hwy ddwywaith, yn ogystal ag ennill un Cwpan y Gynghrair ac un Cwpan Cymru.

Rhoddodd prif sgoriwr Caernarfon, Adam Davies, ei dîm ar y blaen wedi ugain munud wrth iddo fanteisio ar dafliad hir i mewn i’r cwrt gan Morgan Owen. Yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb mae ganddo bellach 13 gôl i’w enw.

Gyda hanner awr i fynd fe dderbyniodd Michael Wilde gerdyn coch am roi penelin yng ngwyneb Phil Mooney oddi ar y bêl.

A hwythau lawr i ddeg dyn fe ddaeth Cei Connah o hyd i gôl cyn y diwedd gydag ergyd dda gan Ryan Harrington yn curo Lewis Webb yn y gôl gan ddod â’r sgôr yn gyfartal. Bu rhaid i’r ddau dîm fodloni ar bwynt yr un ar ddiwedd y gêm.

(Dydd Sadwrn)

Y Bala 1-1 Met Caerdydd

Wedi i beniad Finn Skiverton roi Met Caerdydd ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf roedd gobaith y byddent yn dod â’u rhediad o bum gêm heb ennill i ben erbyn diwedd y prynhawn.

Ag yntau wedi bod yn rhan o’r academi hon oedd gôl gyntaf Skiverton i’r tîm cyntaf.

Fe gollon nhw eu mantais ddeg munud cyn y chwiban olaf wrth i’r dyfarnwr roi cic o’r smotyn i’r Bala wedi llawio gan Matthew Chubb yn y cwrt.

Alex Lang yn y gôl wedyn yn arbed y cynnig cyntaf ond George Newell yn llwyddo ar ei ail i rwydo gan ddod â’r Bala yn gyfartal.

Gwnaeth Lang yn siŵr nad oedd ei dîm yn colli’r gêm wedi hynny wrth iddo arbed peniad Paulo Mendes yn arbennig o dda.

Gemau i ddod:

(Nos Fawrth, 6ed o Chwefror)

  • Y Seintiau Newydd v Y Drenewydd

(Nos Wener, 9fed o Chwefror)

  • Y Bala v Y Seintiau Newydd
  • Hwlffordd v Pontypridd
  • Aberystwyth v Bae Colwyn

(Dydd Sadwrn, 10fed o Chwefror)

  • Met Caerdydd v Caernarfon
  • Y Drenewydd v Cei Connah
  • Pen-y-bont v Y Barri