-
- Er y dechrau gwych i’r rheolwr Gavin Allen, mae Pontypridd wedi colli tri phwynt arall, yn ychwanegol i’r chwe phwynt a gymerwyd oddi arnynt eisioes gan y gynghrair am dorri rheolau
- Y Seintiau Newydd yn curo Caernarfon o wyth gôl i un ac yn agosáu at dorri record byd
- Hat-tric chwe munud George Newell i’r Bala yn erbyn Y Drenewydd
- Gôl hwyr Hwlffordd yn erbyn Y Barri yn sicrhau pwynt iddynt ac yn eu cadw yn y seithfed safle
- Pen-y-bont dri phwynt tu ôl i Hwlffordd ar ôl ildio’n hwyr yn erbyn Aberystwyth
- Cryfder Cei Connah yn ennill y gêm iddynt er gwaethaf perfformiad da gan Fet Caerdydd
Pontypridd 4-0 Bae Colwyn
Er i ddechrau gwych rheolwr newydd Pontypridd, Gavin Allen, barhau, mae’r clwb wedi colli tri phwynt arall am dorri rheolau technegol yn ymwneud â’r system COMET.
Codwyd hwy i’r degfed safle ac allan o’r ddau safle isaf ar ôl curo Bae Colwyn, ond yn sgil colli’r tri phwynt diweddaraf yma, maent bellach wedi disgyn yn eu holau i’r 11fed safle.
O ran y pêl-droed ei hun mae pethau wedi gwella’n sylweddol a hwythau bellach wedi ennill dwy o’u tair gêm gyntaf dan reolaeth Gavin Allen ers iddo ymuno gyda’r clwb ddiwedd mis Ionawr.
Yn ei gemau cyntaf fel rheolwr mae ei dîm wedi llwyddo i sgorio wyth gôl hefyd, gan ildio dim ond un. O’r holl gynghrair, Y Seintiau Newydd a’r Bala yw’r unig dimau sydd wedi ildio llai na Phontypridd y tymor hwn.
Wedi 20 munud yn erbyn Bae Colwyn fe roddodd Kieran Lewis Pontypridd ar y blaen wrth i flerwch yn amddiffyn yr ymwelwyr ei alluogi i rwydo.
Wyth munud yn ddiweddarach ac fe gafodd Pontypridd eu hail. Owen Pritchard y tro hwn yn cael digonedd o amser ar y bêl i fedru rhwydo ar y postyn cyntaf.
Yn hwyr yn y gêm y daeth y ddwy gôl arall gyda Ben Margetson yn taro’r drydedd i mewn ac yna’r ymosodwr 37 oed, Luke Gullick, yn sgorio’r bedwaredd a hynny yn ei gêm gyntaf y tymor hwn ar ôl cyfnod hir i ffwrdd gydag anaf.
Ddwywaith eleni mae Pontypridd wedi llwyddo i’w curo, gan adael y tîm o’r gogledd ar waelod y tabl.
Caernarfon 1-8 Y Seintiau Newydd
Gyda’r Sentiau Newydd yn ysgubo’r llawr gyda phawb y dyddiau hyn doedd hi ddim yn argoeli’n dda i Gaernarfon hyd yn oed cyn y gêm. Dyma oedd y degfed tro yn olynol i’r Seintiau Newydd eu curo ac mae’r record byd o 27 o fuddugoliaethau yn agosach eto a hwythau’n gobeithio am bum buddugoliaeth arall er mwyn ei thorri am yr eildro yn eu hanes.
Brad Young gafodd y gyntaf nos Wener ddiwethaf a hynny wedi dim ond dau funud wrth iddo benio’r bêl i mewn o gic gornel.
Er y dechrau gwaethaf posib, pan sgoriodd Sion Bradley gôl arbennig wrth iddo dynnu’r bêl i lawr cyn ei phlannu yng nghefn y rhwyd dros ben y golwr fe fyddai Caernarfon wedi codi eu gobeithion, am gyfnod o leiaf.
Hynny nes i’r Seintiau ddechrau arni unwaith eto wrth sgorio un ar ôl y llall gan ddechrau ar ôl hanner awr wrth i Adrian Cieslewicz guro’r golwr ar y postyn cyntaf.
Yn fuan wedi hynny roedd Cieslewicz yng nghanol y chwarae eto wrth iddo guro’r golwr am yr eildro o fewn dau funud.
Funud yn unig yn ddiweddarach roedd Y Seintiau Newydd wedi sgorio eu pedwaredd wrth i Cieslewicz barhau i achosi trafferth i amddiffyn Caernarfon gyda’i bas yn dod o hyd i Brad Young yn y cwrt wrth iddo yntau hefyd sgorio’i ail o’r gêm.
Ar ddechrau’r ail hanner roedd Young a Cieslewicz wrthi eto wrth i’r ddau gyd-chwarae gyda Young yn sgorio ac yn cwblhau ei hat-tric. Dyma oedd ei drydedd hat-tric i’r Seintiau Newydd ers ymuno yn yr haf.
Daeth eu chweched gôl yn fuan wedyn wedi i groesiad dda Jordan Marshall ganfod Rory Holden a oedd yn gwbl rydd yn y cwrt i fedru penio i mewn yn rhwydd.
Fe gymerodd hi hanner awr nes i’r Seintiau ymestyn eu mantais ymhellach fyth gyda Blaine Hudson yn penio’r seithfed bum munud cyn y diwedd cyn i Holden sgorio’i ail yn wych wedi hynny gan goroni’r grasfa yn Yr Ofal.
Y Drenewydd 1-5 Y Bala
Efallai fod sgorio goliau wedi bod yn broblem i’r Bala hyd yn hyn ond nid felly yr oedd hi yn y Drenewydd y tro hwn wrth i George Newell sgorio hat-tric o fewn chwe munud gan sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn y diwedd.
Yn ei dair gêm gyntaf gyda’r clwb, mae rheolwr newydd Y Drenewydd, Scott Ruscoe, wedi gweld ei dîm yn colli’r dair gan ildio 11 gôl a sgorio tair.
Mae eu rhediad gwael erbyn hyn yn ymestyn yn ôl i ddechrau Rhagfyr pan enillon nhw eu pwyntiau diwethaf. Ers hynny maent wedi chwarae saith gêm gan golli pob un ohonynt.
Ar ôl cyd-chwarae da gyda Paulo Mendes rhoddodd Osebi Abadaki’r Bala ar y blaen wedi 13 munud.
Fe darodd Y Drenewydd yn ôl yn fuan wedi hynny wrth i Louis Robles grymanu ergyd wych heibio’r golwr.
Ychydig funudau yn unig barodd y gêm yn gyfartal gyda George Newell ar ôl 24 munud yn taro hat-tric berffaith i mewn o fewn chwe munud i’w gilydd. Peniad o gic gornel yn gyntaf, llithro ergyd heibio’r golwr wedyn gyda’i droed chwith cyn i’w foli a’i droed dde hefyd wyro i gefn y rhwyd oddi ar yr amddiffynnwr.
Does dim stop arno ar y funud ag yntau wedi sgorio pum gôl mewn dwy gêm ar ôl taro dwy i mewn yn ei gêm ddiwethaf yn erbyn Mynydd Y Fflint yng Nghwpan Cymru hefyd.
Hanner awr cyn y chwiban olaf fe ychwanegodd Abadaki y bedwaredd a’r olaf i’w dîm, a’i ail yntau o’r prynhawn.
Y Barri 1-1 Hwlffordd
Er gwaethaf rhediad o bum gêm heb ennill erbyn hyn mae Hwlffordd yn parhau yn y seithfed safle ac uwchben Pen-y-bont. Rhys Abbruzzese sgoriodd yn hwyr yn y gêm yn erbyn Y Barri i sicrhau pwynt i’w dîm yn erbyn ei gyn-glwb.
Cafodd Hwlffordd gyfle i fynd ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf wrth iddynt ennill cic o’r smotyn ond fe arbedwyd cynnig Kai Whitmore gan Mike Lewis cyn i ail gynnig Whitmore hefyd fynd ymhell heibio’r nod.
Gydag 20 munud i fynd fe achosodd croesiad beryglus Michael George i Jazz Richards rwydo i’w gôl ei hun.
Ond yn hwyr yn y gêm fe darodd Hwlffordd yn ôl wrth i beniad Rhys Abbruzzese ar y postyn pellaf wneud y mwyaf o groesiad gampus Rio Dyer.
Mae Hwlffordd yn arwain y ffordd yn rhan isaf y gynghrair gyda thri phwynt o wahaniaeth rhyngddynt hwy a Phen-y-bont sy’n wythfed.
Cyflawni’r union hyn a wnaethant y tymor diwethaf, sef gorffen yn seithfed a chyrraedd y gemau ail gyfle ac yna Ewrop, fydd ganddynt mewn golwg wrth baratoi ar gyfer y saith gêm sy’n weddill.
Pen-y-bont 1-1 Aberystwyth
Wedi’u cosbi yn ddiweddar gan y gynghrair am chwarae chwaraewyr anghymwys mae’r chwe phwynt sydd wedi’i dynnu oddi ar Ben-y-bont wedi cymhlethu pethau iddynt o ran eu hymgais i orffen yn y seithfed safle.
Er iddynt fynd ar y blaen yn erbyn Aberystwyth fe ildion nhw gôl hwyr gan orfod bodloni ar bwynt.
Ryan Reynolds roddodd y tîm cartref ar y blaen a hynny wedi 52 munud. Croesiad dda o gic rydd gan y capten Kane Owen yn canfod Reynolds wrth i’w beniad nerthol fynd i mewn oddi ar y trawst.
Ym munudau ola’r gêm fe gollodd Pen-y-bont eu mantais wrth i ergyd Liam Walsh wyro oddi ar yr ymosodwr Mark Cadwallader gan ddod ag Aberystwyth yn gyfartal.
Gyda saith gêm i fynd nes i’r tymor ddod i ben mae yna dal obaith i Ben-y-bont ail afael ar y seithfed safle a hwythau dri phwynt yn unig tu ôl i Hwlffordd. Gyda’u gêm nesaf gartref yn erbyn Pontypridd fe fydd eu rheolwr, Rhys Griffiths, yn disgwyl cael buddugoliaeth.
Cei Connah 2-1 Met Caerdydd
Mewn gêm gystadleuol fe lwyddodd Cei Connah i ddal eu gafael ar eu mantais gan gipio’r tri phwynt a olygodd eu bod wedi ennill naw allan o’u 11 gêm ddiwethaf.
Yr amddiffynnwr, Ben Nash, sgoriodd gyntaf a hynny am y chweched gwaith y tymor hwn. Cic rydd Josh Williams yn ei gyrraedd yn y cwrt gan ei alluogi i wyro’r bêl heibio’r golwr ar ôl hanner awr.
Williams greodd yr ail gôl i Gei Connah hefyd wrth i’w gic gornel y tro hwn arwain at gôl gan Jack Kenny sydd bellach wedi sgorio ymhob un o’i dair gêm ddiwethaf.
Yn haeddiannol fe gafodd Met Caerdydd gôl chwarter awr cyn y diwedd a hynny drwy Lewis Rees. Parhaodd yr ymwelwyr i roi pwysau ar Gei Connah hyd at y diwedd, ond er i Chris Craven ddod yn agos i sgorio un arall fe arbedwyd ei ergyd gan olygu y bydd rhaid iddynt ddisgwyl eto am fuddugoliaeth.
Ymhob cystadleuaeth dim ond un fuddugoliaeth sydd ganddynt yn eu naw gêm ddiwethaf, ond eto, mae’r perfformiadau yn rhai safonol, fel y crybwyllai’r rheolwr, Ryan Jenkins.
“Mae’n well da fi fod yn y chwech uchaf yn brwydro am le yn Ewrop yn hytrach na brwydro i aros i fyny, ni wedi gwneud y gwaith caled a ni’n gallu mwynhau hyn i ryw raddau…Rwy’n hynod, hynod falch o be ni di neud heddi o ran y perfformiad.”
Gemau i ddod:
(Nos Wener – 1af o Fawrth)
- Y Bala v Cei Connah
- Caernarfon v Y Drenewydd
(Dydd Sadwrn – 2il o Fawrth)
- Bae Colwyn v Hwlffordd
- Y Seintiau Newydd v Met Caerdydd
- Aberystwyth v Y Barri
- Pen-y-bont v Pontypridd
Mae’r erthygl hon am ddim i bawb gael blas ar gynnwys cylchgrawn Chwys. Beth am danysgrifio er mwyn derbyn rhagor o sylwebaeth arbenigol ar y campau yng Nghymru?