• Record byd o 27 o fuddugoliaethau yn olynol yno i’w churo i’r Seintiau Newydd
  • Bae Colwyn yn gwrthod rhoi’r ffidil yn y to ac yn brwydro tua’r gwaelod
  • Hwlffordd yn methu â churo deg dyn Pontypridd gartref
  • Saith gêm heb ennill i Fet Caerdydd a Gwion Dafydd yn sgorio’i gôl gyntaf o’i ail gyfnod gyda Chaernarfon
  • Dechrau anodd i reolwr newydd Y Drenewydd, Scott Ruscoe, yn parhau
  • Deg dyn Pen-y-bont yn taro’n ôl ddwywaith mewn gêm gyfartal gyda’r Barri

Y Bala 0-1 Y Seintiau Newydd

Yn dilyn nos Wener mae 30 o bwyntiau yn gwahanu’r Bala sy’n drydydd a’r Seintiau Newydd sydd ar y brig erbyn hyn.

Mae’r Seintiau Newydd ar eu hail ymgais i geisio torri record byd eu hunain o ennill mwy na 27 gêm yn olynol.

Yn dechnegol roedd y fuddugoliaeth hon yn erbyn y Bala y 27ain gêm iddynt ei churo. Ond o ran record y byd cyhoeddwyd nad ydi ennill gemau y tu hwnt i 90 munud yn cyfrif, ac felly nad oedd eu buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn East Fife yn gynharach yn y tymor, na’r buddugoliaethau cyn hynny, yn gymwys ar gyfer y record.

Gadawodd hyn y Seintiau Newydd gydag 20 o fuddugoliaethau yn olynol cyn chwarae’r Bala. Diolch i gôl Brad Young maent bellach wedi cyrraedd 21, ac yn anelu i ennill saith gêm arall er mwyn torri’r record unwaith eto.

Gydag yntau’n datblygu i fod yn un o chwaraewyr gorau’r gynghrair fe sgoriodd Young ei 17eg gôl i’r Seintiau Newydd ychydig cyn hanner amser.

Symudiad da unwaith eto ganddynt gyda Jordan Williams yn taro’r bêl ar draws y cwrt cyn i Young siapio’i gorff yn berffaith a’i chladdu yng nghefn y rhwyd.

Oddeutu deng munud cyn y chwiban olaf bu bron i ymgais Y Seintiau Newydd o guro’r record chwalu wrth i’r Bala lwyddo i roi’r bel yn y rhwyd drwy beniad Joe Malkin. Ond oherwydd cam sefyll ni chaniatawyd y gôl gan y dyfarnwr, gan olygu fod y freuddwyd dal yn fyw i’r Seintiau.

 

Aberystwyth 0-1 Bae Colwyn

A hwythau ar rediad o saith gêm heb ennill cyn chwarae Aberystwyth nos Wener roedd yn ganlyniad gwych i Fae Colwyn ac yn un fydd yn sicr o roi hwb iddynt barhau i frwydro  yn yr wyth gêm sy’n weddill er mwyn aros yn y gynghrair.

Er eu bod dal i fod ar waelod y gynghrair, dim ond un pwynt o wahaniaeth sydd bellach rhyngddyn nhw a’r safleoedd diogel. Aberystwyth sydd yn y degfed safle ar hyn o bryd gyda phwynt yn fwy na Phontypridd a Bae Colwyn.

Wedi cyfleoedd i’r ddau dîm gan gynnwys dau gyfle da i Zac Hartley roi Aberystwyth ar y blaen daeth unig gôl y gêm ar ôl 70 munud a honno gan Matty Hill.

Roedd hi’n gêm allweddol o ran y frwydr i aros yn y gynghrair felly gyda buddugoliaeth i fae Colwyn yn tynhau’r ras. Pe bai Aberystwyth wedi ennill fe fyddai’r gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn saith pwynt, yn hytrach na phwynt fel y mae y nawr.

Rhyddhad o’r diwedd i reolwr Bae Colwyn, Steve Evans, gyda pherfformiad safonol gan ei dîm, am unwaith, yn talu ei ffordd.

“Mi roedden ni’n arbennig heno ma, o’r chwiban gyntaf, mi aethon ni ar eu holau, mi wnaethon ni basio’r bêl yn hynod o dda heno ac mi ro’n i’n meddwl ein bod ni’n haeddu’r fuddugoliaeth,” meddai ar ôl y gêm.

“Mae’n perfformiadau ni wedi haeddu mwy o bwyntiau, ond dyna ydi pêl-droed.”

 

Hwlffordd 1-1 Pontypridd

Gydag ail gêm Gavin Allen wrth y llyw roedd pwynt oddi cartref yn erbyn tîm cryf fel Hwlffordd, a hwythau i lawr i ddeg dyn ar ôl hanner awr hefyd, yn ganlyniad da i Bontypridd o ystyried eu sefyllfa tua gwaelod y gynghrair.

Yn erbyn y timau o’u hamgylch y byddent yn gobeithio ennill y rhan fwyaf o’u pwyntiau hyd at ddiwedd y tymor. Aberystwyth a Bae Colwyn yw’r ddau dîm arall sy’n brwydro i aros i fyny.

Doedd hi ddim yn argoeli’n dda iddynt nos Wener pan gafodd Luke Cummings ei anfon yn syth oddi ar y cae am dacl beryglus ar Kai Whitmore ac ymhen munudau wedyn fe sgoriodd Ben Fawcett i Hwlffordd gan wneud eu tasg yn un anoddach fyth.

A hithau’n agosáu at hanner amser, allan o nunlle fe ddaeth Pontypridd yn gyfartal drwy gôl Ben Ahmun, sy’n sicr wedi cryfhau’r tîm ers dod yn ôl o anaf ym mis Tachwedd.

Blerwch llwyr yn amddiffyn Hwlffordd gyda’r golwr, Zac Jones, dan bwysau ac yn pasio’r bêl yn syth i lwybr Ahmun.

Fe bwysodd Hwlffordd sawl gwaith yn yr ail hanner ond aflwyddiannus fu eu hymdrechion. Gorfodwyd arbediad da gan George Ratcliffe yn y gôl i Bontypridd pan ergydiodd Kai Whitmore hanner foli gampus y tu allan i’r cwrt.

Fe fethodd Hwlffordd wneud y mwyaf o’u chwaraewr ychwanegol felly. Dywedodd eu rheolwr, Tony Pennock, fod y diffyg pwyntiau yn eu dwy gêm ddiwethaf, yn erbyn Aberystwyth a hon yn erbyn Pontypridd, yn dipyn o ergyd wrth iddynt geisio gorffen yn y seithfed safle o flaen Pen-y-bont.

 

Met Caerdydd 2-2 Caernarfon

A hwythau lawr i ddeg dyn am ugain munud olaf y gêm fe fethodd Met Caerdydd â dal eu gafael ar eu mantais wrth i’r ymosodwr ifanc, Gwion Dafydd, sgorio’i gôl gyntaf i Gaernarfon ers ymuno o’r Seintiau Newydd ar fenthyg.

Nid yw Met Caerdydd wedi ennill unrhyw un o’u saith gêm ddiwethaf. Er hyn, dim ond dau bwynt sydd rhyngddynt hwy a’r Bala ac felly mae’r trydydd safle yn parhau i fod o fewn eu cyrraedd.

Ar ôl 18 munud brynhawn Sadwrn fe roddodd Sion Bradley Caernarfon ar y blaen a hynny gyda chic rydd arbennig.

Ym mhen arall y cae ychydig funudau wedyn fe ddangosodd Tom Price ei allu ef o giciau rhydd hefyd wrth iddo ddod a’i dîm yn gyfartal. Y Ffordd berffaith i sgorio’i gôl gyntaf y tymor hwn.

Ar ôl 57 o funudau fe aeth Met Caerdydd ar y blaen a hynny diolch i’w prif sgoriwr Eliot Evans wrth iddo osod y bêl yn daclus yng nghefn y rhwyd.

Wedi 70 munud fe dderbyniodd Sam Jones gerdyn coch a hynny am dacl beryglus ar Morgan Owen.

Ni lwyddodd Met Caerdydd i gadw eu mantais, ac ar ei ddechreuad cyntaf ers ymuno ar fenthyg dan ddiwedd y tymor roedd Gwion Dafydd yn ddigon effro yn y cwrt i ddod â Chaernarfon yn gyfartal ar ôl 84 o funudau.

 

Y Drenewydd 2-3 Cei Connah

Hon oedd ail gêm rheolwr newydd Y Drenewydd, Scott Ruscoe, wrth y llyw a dyma oedd ei ail golled hefyd.

Ymunodd â’r clwb ddiwedd mis Ionawr ac fe fel cyn enillydd y gynghrair gyda’r Seintiau Newydd ddwywaith o’r blaen fe fydd yn gobeithio gadael ei farc ar y gynghrair unwaith yn rhagor.

Mae’r Drenewydd wedi colli eu chwe gêm ddiwethaf ond rhaid ystyried bod pedair o’r gemau hynny wedi bod yn erbyn y ddau dîm cryfaf yn y gynghrair, sef y Seintiau Newydd a Chei Connah.

Cafwyd dechrau addawol i’r gêm ddydd Sadwrn wrth iddynt fynd ar y blaen ar ôl deng munud gydag ergyd dda gan Ismael Zeli yn taro’r postyn cyn i’r bêl lanio wrth draed Jason Oswell â’i rhoddodd i mewn yn gyfforddus.

Ar ôl 27 o funudau fe darodd Cei Connah yn ôl gyda chroesiad Ryan Harrington yn cael ei phenio i mewn gan Jordan Williams.

Ymhen ychydig wedyn roedd Williams wedi sgorio un arall gyda’i ben. Prif sgoriwr y gynghrair gydag 17 o goliau yn profi nad yw ei ddiffyg taldra yn ei ddal yn ôl o gwbl.

Cryfhau wnaeth Cei Connah wedi hynny ac fe ddaeth eu trydedd yn fuan wedi dechrau’r ail hanner. Jack Kenny y tro hwn yn y lle cywir ar yr amser cywir ac yn rhwydo’n rhwydd.

Er i Jason Oswell sgorio’i ail ymhen ychydig wedyn, fe gadwodd Cei Connah eu mantais hyd y diwedd gan sicrhau eu pedwaredd fuddugoliaeth yn olynol yn erbyn Y Drenewydd.

 

Pen-y-bont 2-2 Y Barri

Mae Pen-y-bont yn seithfed ond yn rhannu’r un faint o bwyntiau a Hwlffordd sy’n wythfed.

Gydag wyth gêm i fynd mae’r Barri bum pwynt tu ôl i’r ddau ac felly bydd angen buddugoliaethau arnynt o hyn ymlaen, yn hytrach na gemau cyfartal, er mwyn ceisio gorffen yn seithfed a chyrraedd y gemau ail gyfle ar gyfer Ewrop.

Hwlffordd yw eu gwrthwynebwyr nesaf ac mae honno’n gêm y mae’n rhaid iddynt geisio’i  hennill mwy na thebyg.

Fe ddechreuodd pethau’n dda iddynt brynhawn Sadwrn gyda gôl ar ôl ugain munud gan Aiden Lewis, ei gyntaf yn yr Uwch Gynghrair hefyd.

Edrychodd pethau yn well fyth i’r Barri pan anfonwyd un o brif chwaraewyr eu gwrthwynebwyr, Chris Venables, o’r cae yn fuan wedyn a hynny yn dilyn ffrae gyda William Richards oddi ar y bêl.

Ond fe lwyddodd Pen-y-bont i aros yn y gêm yn y cyfamser ac ar ôl cwta 60 munud dyfarnwyd cic o’r smotyn iddynt wedi i Luc Rees ruthro allan o’i gôl gan daro Keyon Reffell i’r llawr.

O’r smotyn ac yn gwbl ddidrafferth fe sgoriodd y capten, Kane Owen, gan ddod â’i dîm yn gyfartal.

Yn fuan wedi hynny fe darodd Y Barri yn ôl wrth i beniad Sam Snaith ganfod cefn y rhwyd yn erbyn ei gyn glwb.

Funudau yn unig yn ddiweddarach roedd y gêm yn gyfartal unwaith eto wrth i gic rydd Kane Owen gyrraedd Keyon Reffell a oedd yn gwbl rydd yn y cwrt i fedru rhwydo.

Bu bron i brynhawn Y Barri waethygu eto wrth i ergyd Eliot Richards gael ei chlirio o geg y gôl. Bodloni ar bwynt wnaeth y ddau yn y diwedd gyda deg dyn Pen-y-bont yn amlwg yr hapusaf o’r ddau.

Gemau i ddod:

(Nos Wener, 23ain o Chwefror)

  • Caernarfon v Y Seintiau Newydd
  • Y Barri v Hwlffordd
  • Pen-y-bont v Aberystwyth

(Dydd Sadwrn, 24ain o Chwefror)

  • Pontypridd v Bae Colwyn
  • Y Drenewydd v Y Bala
  • Cei Connah v Met Caerdydd