Mae cyfnod newydd ar droed i Gymru heno wrth i’r prif hyfforddwr newydd Rhian Wilkinson gymryd yr awenau am y tro cyntaf yn dilyn ymadawiad sydyn Gemma Grainger i hyfforddi Norwy.

Yn dilyn y rownd ragbrofol agoriadol Ewro 2025 Merched UEFA yn erbyn Croatia heno ar y Cae Ras, fe fydd Cymru yn teithio i wynebu Kosovo nos Fawrth, 9 Ebrill.