Wrth i’r tîm cyntaf wynebu’r Ffindir nos Iau, Lloegr fydd gwrthwynebwyr Cymru C nos Fawrth ym Mharc Stebonheath, Llanelli, gyda disgwyl torf dda yno i wylio’r tîm yn herio’r gelyn pennaf.
Caiff y Cymry yn y cynghreiriau Cymreig y cyfle unwaith eto i brofi eu hunain yn erbyn chwaraewyr proffesiynol o gynghreiriau pumed a chweched haen Lloegr wrth i Mark Jones eu harwain am y pumed tro ers cynnal y gêm gyntaf nôl yn 2018.