Wrth i brif hyfforddwr Cymru Warren Gatland gyhoeddi ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2024, roedd yr asgellwr Louis Rees-Zammit, nad oedd wedi ei gynnwys ar y rhestr, yn cyhoeddi ei fod am adael rygbi – ar unwaith.
Fe ddaeth y newyddion yn sioc i nifer, mae’n siŵr, wrth i Rees-Zammit, 22 mlwydd oed, ddatgan ei benderfyniad i adael Clwb Caerloyw a thîm Cymru, i fynd i ddilyn ei freuddwyd o chwarae yn yr NFL yn America.
Derbyn gwahoddiad