Mae Pêl-rwyd Cymru wedi cyhoeddi dyddiadau y Gynghrair Cenedlaethol, a fydd yn dechrau ym Mhrifysgol Bangor ym mis Mai.

Fe fydd y gynghrair yn fwy nag erioed yn 2024 gyda dau dîm ychwanegol wedi’u henwi i fod yn rhan o’r gystadleuaeth – Coastal Heat (a fydd yn cynrychioli Afan Nedd Tawe) a Powys Sparks.

Mae’r ychwanegiad o’r ddau dîm yma yn golygu y bydd yna wyth tîm i gyd yn cynrychioli ardaloedd amrywiol o Gymru.

Yn ymuno â Coastal Heat a Powys Sparks y bydd North West Fury, North East Inferno, Powys Sparks, West Wales Phoenix, Coastal Heat, Valley Volcanoes, South East Blaze a City Flames!

Yn ogystal â thimau ychwanegol eleni mae yna ddiwrnod cyfan ychwanegol o gyffro gyda’r gynghrair bellach yn bedwar diwrnod llawn o gystadlu.

Mae’r diwrnod ychwanegol yn sicrhau bod mwy o gyfleoedd i gefnogwyr pêl-rwyd ddod i wylio’r gemau a chefnogi eu timau.

Amserlen y gynghrair;

Fe fydd 18 chwaraewr yn cael eu dewis ar gyfer pob carfan ar ddiwrnodau treialon dros yr wythnosau nesaf.

Cwtogir y nifer yna i 12 chwaraewr cyn Diwrnod Cystadlu 1 – gyda tair Partner Hyfforddi a thair Cyfranwyr Hyfforddi.

Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Pêl-rwyd Cymru am wybodaeth bellach am sut i fynychu’r diwrnod treialon.