Fe fydd caeau chwarae Pontcanna a Llandaf, Caerdydd, yn llwyfannu’r gystadleuaeth rygbi mwyaf o’i math yng Nghymru – Twrnamaint Rygbi 7 Bob Ochr Urdd WRU, rhwng 15 a 19 Ebrill.
Bydd dros 450 o dimau a 6,600 o chwaraewyr ifanc yn cymryd rhan yn yr ŵyl gwbl gynhwysol, sy’n cynnwys categorïau i ysgolion, colegau ac ysgolion addysg arbennig, ynghyd â sesiynau rygbi cadair olwyn.
Gwyliwch gyffro diwrnod agoriadol y gystadleuaeth y llynedd.
Bydd yr Urdd hefyd yn talu teyrnged i Barry John drwy gyflwyno gwobr yn ei enw fel rhan o’r twrnamaint. Dyma dalu teyrnged am gyfraniad hanesyddol Barry John a’r gêm elusennol a drefnwyd i ddathlu hanner can mlwyddiant Urdd Gobaith Cymru yn 1972.
AMSERLEN CYSTADLEUAETH URDD WRU 7
Dydd Llun 15/4/24
Bechgyn BL 12-13
Merched BL 12-13
Dydd Mawrth 16/4/24
Bechgyn BL 10
Merched BL 10-11
Dydd Mercher 17/4/24
Bechgyn BL 11
Bechgyn BL 9
Dydd Iau 18/4/24
Bechgyn BL 8
Merched BL 8-9
Dydd Gwener 19/4/24
Bechgyn BL 7
Merched BL 7