Dominic Dale yw’r unig Gymro i gyrraedd Rownd yr Wyth Olaf yn y Welsh Open yn Llandudno wythnos hon.
Pencampwriaeth Agored Cymru, y Welsh Open, yw un o’r twrnameintiau sydd wedi rhedeg hiraf ar Daith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth y Byd a Phencampwriaeth y DU yw’r unig rai sydd â fwy o hanes o ran eu statws.
Wedi’i lwyfannu gyntaf ym 1992, mae nifer o enwau mawr y gamp wedi ennill y twrnamaint dros y blynyddoedd gan gynnwys y Cymro Mark Williams ar ddwy achlysur (1996 a 1999).
Yn dilyn cyfnod yng Nghasnewydd a Chaerdydd, mae’r bencampwriaeth bellach wedi ymgartrefu yn Llandudno.
Gyda chystadleuaeth 2024 yn eu hanterth a’r rowndiau terfynol i ddod dros y penwythnos, dim ond un Cymro sy’n dal i fod yn brwydro gyda Dominic Dale yn cyrraedd Rownd yr Wyth Olaf ar ôl iddo drechu’r Cymro Jak Jones o 4-0 yn Rownd 4.
Gwelwyd sawl Cymro yn profi llwyddiant yn y rowndiau agoriadol yn gynharach yn y bencampwriaeth ond colli oedd hanes bron bob un ohonynt yn y drydedd rownd, gan gynnwys y cyn bencampwr Mark Williams.
Mae’r pencampwr presennol, Robert Milkins o Loegr, allan o’r gystadleuaeth a’r Albanwr John Higgins yw’r unig cyn bencampwr sy’n dal yn y ras. Mae’r gystadleuaeth yn lled y pen agored felly a chyfle gan Dale i fynd ymlaen i’r rownd cyn derfynol os yw’n gallu cael y gorau ar y Saes Elliot Slessor am 2 o’r gloch heddiw.
Os fydd Dale yn llwyddo i gyrraedd y Rownd Cyn Derfynol fe fydd yn wynebu naill ai Martin O’Donnell (Lloegr) neu Luca Brecel (Gwlad Belg) pencampwr presennol y byd.
Llwyddiant y Cymry
Rownd 1
Jamie Jones – colli 4-3 yn erbyn Robert Milkins (Lloegr)
Alfie Davies – ennill 4-1 yn erbyn Liam Graham (Alban)
Jackson Page – colli 4-1 yn erbyn Neil Robertson (Awstralia)
Mark Williams – ennill 4-2 yn erbyn John Astley (Lloegr)
Duane Jones – ennill 4-2 yn erbyn Liam Highfield (Lloegr)
Liam Davies – ennill 4-0 yn erbyn Alexander Ursenbacher (Swisdir)
Rownd 2
Ryan Day – ennill 4-2 yn erbyn David Lilley (Lloegr)
Jamie Clarke – collie 4-0 yn erbyn Adam Duffy (Lloegr)
Mark Williams – ennill 4-3 yn erbyn Sanderson Lam (Lloegr)
Matthew Stevens – colli 3-4 yn erbyn Ricky Walden (Lloegr)
Duane Jones – ennill 4-1 yn erbyn Liam Davies (Cymru)
Andrew Pagett – colli 4-2 yn erbyn Si Jiahui (Tseina)
Dominic Dale – ennill 4-3 yn erbyn Alfie Davies (Cymru)
Dylan Emery – ennill 4-3 yn erbyn Noppon Saengkham (Thailand)
Jak Jones – ennill 4-1 yn erbyn Zhang Anda (Tseina)
Rownd 3
Mark Williams – colli 4-1 yn erbyn Anthony McGill (Yr Alban)
Duane Jones – colli 4-1 yn erbyn Matthew Selt (Lloegr)
Ryan Day – colli 4-1 yn erbyn John Higgins (Yr Alban)
Daniel Wells – colli yn erbyn 4-2 Marco Fu (Hong Kong)
Jak Jones – ennill 4-2 yn erbyn Hossein Vafaei (Iran)
Dominic Dale – ennill 4-1 yn erbyn Stan Moody (Lloegr)
Rownd 4
Dominic Dale – ennill 4-0 yn erbyn Jak Jones (Cymru)
Rownd yr Wyth Olaf
Mark Allen (Gogledd Iwerddon) v John Higgins (Yr Alban)
Dominc Dale (Cymru) v Elliot Slessor (Lloegr)
Gary Wilson (Lloegr) v Anthony McGill (Yr Alban)
Martin O’Donnell (Lloegr) v Luca Brecel (Gwlad Belg)
Mae’n bosib gwylio’r twrnamaint yn fyw ar y BBC.