Does dim lot yn fwy dramatig ar y cae rygbi na chipio buddugoliaeth o grafangau’r gwrthwynebwyr gyda gôl adlam yn eiliadau olaf y gêm.
A dweud y gwir, dyw gweld gôl adlam mewn gêm o rygbi ddim yn rhywbeth sy’n digwydd yn aml iawn dyddiau yma.
Dyma’n union ddigwyddodd ar gae Stadiwm Swansea.com prynhawn Sul gyda’r maswr ifanc, Dan Edwards, yn dangos hyder a sgil heb ei ail wrth iddo daro’r bêl o 30 metr i hollti’r pyst gyda’r gôl adlam perffaith.
Buddugoliaeth ddramatig i’r Gweilch, pedwar pwynt pwysig a’r tîm cartref yn symud uwchben ei gwrthwynebwyr Ulster yn y tabl i’r seithfed safle.
Ar ôl y gêm fe dalodd Toby Booth, hyfforddwr y Gweilch, deyrnged ddisglair i’r gŵr ifanc gan ddweud;
“Y peth da am yr holl bennod yna mewn gwirionedd oedd y ffaith mai Dan gychwynnodd yr holl beth.
“Yn amlwg rydyn ni’n paratoi at y fath sefyllfa ond un peth yw cael y cyfle, peth arall yw cyflawni’r gic o dan bwysau.
“I gael yr hunangred a hefyd y sgil a’r dienyddiad i’w wneud, mae’r eiliadau tyngedfennol hynny yn bwysig iawn.
“Mae’n datblygu i fod yn chwaraewr gwych.”
Yr hyn sydd efallai hyd yn oed yn fwy trawiadol am y fuddugoliaeth yw bod y Gweilch wedi bod i lawr i 13 dyn yn ystod yr ail hanner ar ôl i Morgan Morse a James Ratti weld cardiau melyn.
Er i’r Gweilch fynd ar y blaen ar ôl cais i’r canolwr Keiran Williams, Ulster oedd yn tybio ei bod wedi cael y gair olaf wrth i Jake Flannery gicio gôl gosb gydag ond pedair munud yn weddill ar y cloc.
Roedd y Gweilch, fodd bynnag, yn benderfynol o frwydro hyd yr eiliad olaf.
Dywedodd Edwards, a arwyddodd gytundeb newydd yr wythnos ddiwethaf: “Mae’n rhaid i mi roi clod i’r pac. Roeddwn i’n meddwl bod y blaenwyr.
“Roedd yna lawer o weithiau yn y gêm yna fe allen ni fod wedi rhoi’r ffidil yn y to. Mae’n ganlyniad gwych i ni. Roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n rhagorol.”
Ychwanegodd Booth: “Fe wnaethon ni ddod o hyd i ffordd i ennill a dylai’r bechgyn gymryd clod enfawr am hynny.”