Eira mawr oedd yn wynebu Elfyn Evans a Scott Martin yn Rali Sweden penwythnos diwethaf gyda’r Cymro yn gobeithio casglu pwyntiau holl bwysig ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd.
Yn rownd agoriadol y bencampwriaeth, yn Rali Monte-Carlo nôl ym mis Ionawr, fe orffennodd Evans yn y trydydd safle tu ôl i Sebastien Ogier (2il) a Thierry Neuville (1af).
Gyda phencampwr y llynedd, Kalle Rovanperä, wedi penderfynu rasio’n rhan amser eleni mae’r gystadleuaeth yn lled y pen agored i’r gyrwyr eraill i wneud eu marc, ond mae pob rali a phob pwynt yn cyfri.
Yn dilyn y rali dywedodd Evans fod yna bethau positif i’w cymryd o’r perfformiad. Fe ddioddefodd yn yr eira ar ddiwrnod llawn cyntaf y penwythnos ond fe lwyddodd i frwydro’n ôl a chymryd yr ail safle a’r 24 pwynt pwysig.
Dywedodd Evans; “Doedd pethau ddim yn edrych yn dda iawn ddydd Gwener gyda gwaith anodd i’w wneud o ran ein safle ar yr hewl. Ond fe ddaethon ni drwyddi ac roedd hynny’n holl bwysig. Fe wnaeth hynny rhoi’r cyfle i ddringo’n ôl i fyny’r tabl.
“Pan roedd yr amodau o’n plaid roedd ein cyflymder yn iawn ac fe wnaethon ni lwyddo cael pwyntiau da yn y diwedd. Roedden i’n teimlo efallai y dylen ni fod wedi ennill y Power Stage, ond fe wnaethon ni ambell gamgymeriad yn y diwedd.
“O ystyried ble roeddem yn gynharach yn y penwythnos ac i ddod allan ohono gyda nifer dda o bwyntiau, rwy’n meddwl y gallwn fod yn weddol hapus.”
Aeth ymlaen i ddweud: “Ro’n i ychydig bach yn flêr ar y diwedd, wedi rhoi tipyn o amser i ffwrdd – siom am hynny ond wedi dweud hynny pwyntiau da o’r penwythnos, allwn ni ddim rili gofyn mwy na hynne.
Esapekka Lappi cipiodd y blaen yn Rali Sweden gyda Adrien Fourmaux yn cyrraedd y podiwm am y tro cyntaf yn y trydydd safle.
Mae canlyniad Evans yn yr ail rownd yn golygu ei fod yn awr yn yr ail safle yn nhabl y bencampwriaeth, tri phwynt yn unig du ôl i’r ceffyl blaen Thierry Neuville.
Mae Pencampwriaeth Rali’r Byd yn awr yn symud o dymheredd rhewllyd Sweden i wastadeddau poeth Affrica.
Rali Safari Kenya, 28-31 Mawrth