Gareth Furlong yw’r Cymro diweddaraf sydd a’i olygon ar Gemau Olympaidd Paris 2024 wedi iddo gael ei gynnwys yng ngharfan estynedig Hoci Prydain Fawr.

Mae Gareth yn ymuno â Rupert Shipperley, Jacob Draper, Toby Reynolds-Cotterill a Sarah Jones, Cymry sydd yn rhan o’r rhaglen yn barod.

Mae’r Cymro Zak Jones hefyd yn rhan o’r tîm hyfforddi canolog.