Mae’r bwrlwm ar gynnydd wrth i ni nesáu at y Gemau Olympaidd ym Mharis ymhen tri mis ond parhau mewn tywyllwch y mae manylion dyfodol Gemau’r Gymanwlad.

Y cwestiwn mawr i Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad yw pwy sy’n mynd i lwyfannu Gemau 2026 ar ôl i dalaith Fictoria, Awstralia, dynnu’n ôl y llynedd oherwydd costau cynyddol.

Enwyd Malaysia fel eilydd posib ond troi’r cynnig i lawr wnaethon nhw er gwaethaf cynnig o £100 mil o gefnogaeth gan y Ffederasiwn.