Stadiwm STōK Cae Ras yn Wrecsam bydd yn cynnal y gêm agoriadol i Gymru yn Rownd Ragbrofol UEFA EURO 2025 mis nesaf pan fydd carfan Rhian Wilkinson yn wynebu Croatia ar ddydd Gwener 5 Ebrill (KO 19:15).

Chwaraeodd Cymru ddiwethaf yn Wrecsam ym mis Mawrth 2020, gan guro Estonia 2-0 mewn gêm gyfeillgar o flaen dros 2,000 o gefnogwyr. Bydd Wilkinson a’r chwaraewyr yn gobeithio bydd y Wal Goch yn troi allan yn eu niferoedd i gefnogi’r tîm yn y gogledd.